Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Tobias Baysting

Tobias Baysting

Mynwy

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Hawliau LHDTC+
  • Gweithredu ar yr hinsawdd
  • Anghydraddoldeb o ran cyfoeth

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Tobias Baysting

Bywgraffiad

Datganiad ymgeisydd: Mae bod yn berson ifanc yn eich arddegau yng Nghymru fodern yn dra gwahanol i’r bywyd yr oedd ein rhieni yn ei adnabod, mewn nifer o ffyrdd. O ddiwedd y Rhyfel Oer i gynnydd Technoleg Fawr, mae ein bywydau wedi cael eu newid am byth. Mater i’r bobl ifanc heddiw yw helpu i newid y wlad hon, felly byddai cael fy ethol i fod yn Aelod o’r Senedd Ieuenctid yn caniatáu i bobl fel fi fod ar flaen y gad o ran newid cymdeithasol.

Rwyf am gynrychioli'r bobl yr wyf i wedi tyfu i fyny gyda nhw, eu barn, eu pryderon a gwneud newid ystyrlon i'w bywydau. Eu profiadau nhw yw’r rhai yr wyf am wrando arnynt, a thrwy'r cyfryngau cymdeithasol rwy'n gobeithio cael dealltwriaeth ehangach o sut y gallaf eu cynrychioli.

O fod yn olygydd papur newydd yr ysgol, i siarad yng Nghynadleddau Cenhedloedd Unedig Model Rhyngwladol, rwyf wedi profi llawer o bethau sydd wedi rhoi gwybodaeth fyd-eang i mi. Mae’r profiadau hyn, ar y cyd â’m canfyddiad o’r byd fel unigolyn LHDTC+ agored, yn fy ngwneud i’n berson delfrydol i siarad ar ran pobl ifanc Cymru.

Mae yna fyd gwell y gallwn ni ei adeiladu, ac rwyf i am gynrychioli pawb ynddo, drwy eich pleidlais chi dros fyfyriwr o Gymru.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Tobias Baysting