Roedd Andrew yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma ei ddatganiad
pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
- Iechyd
meddwl a llesiant
- Sgiliau bywyd - Codi dyheadau
- Cwricwlwm addysg presennol
Datganiad
ymgeisydd: Shwmae,
Fy enw i yw
Andrew a dw i'n Aelod Cabinet Ieuenctid Merthyr Tudful. Dw i'n wirfoddolwr i elusen
leol. Fi yw Maer Ieuenctid presennol Merthyr Tudful. Mae hyn yn golygu mai fi
yw dinesydd ieuenctid cyntaf Merthyr Tudful a dw i’n gwneud fy ngorau glas i
sicrhau bod pobl iofanc, eu lleisiau a’u barn yn cael
eu clywed, eu hystyried a'u dwyn i’r amlwg.
Yn fy ngwaith
ieuenctid blaenorol, dw i wedi helpu i greu'r Pecyn Cymorth Iechyd Meddwl i
bobl ifanc. Dw i wedi cydweithio ar brosiectau gyda mwy na 40 o asiantaethau
partneriaeth gwahanol a siarad am bobl ifanc o flaen torfeydd mawr.
Dros y pedair
blynedd diwethaf, dw i hefyd wedi bod yn rhan o nifer o wobrau, digwyddiadau a
chyfarfodydd gwahanol yn fy ysgol. Dw i'n aelod o’r Cyngor Ysgol fel
uwch-swyddog, a dw i'n mwynhau cynnal cyfarfodydd i drafod beth sy'n bwysig i
bobl ifanc yn fy ysgol.
Dw i'n gweithio’n
galed i wella cyfathrebu, cyrhaeddiad a chydweithrediad ym mhopeth dw i’n ei
wneud.
Diolch, Andrew