Roedd Brengain yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma eu datganiad pan oeddent yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif ystyriaethau:
Ehangu'r Gymraeg o fewn cymdeithas
Hanes Cymru yn y cwricwlwm
Cerdyn teithio am ddim
Brengain Glyn Williams ydw i, ac rwyf yn ddisgybl blwyddyn 11 yn Ysgol
Tryfan, Bangor. Rwy’n byw yn y Felinheli sydd â bron i 70% o’i thrigolion yn
siarad Cymraeg. Serch hyn, credaf fod nifer y cyfleon i siarad yr Iaith tra’n
siopa ym Mangor yn anghyson i ardal draddodiadol Gymreig. Mae staff nifer o’r
siopau rwyf wedi siarad â hwy wedi cyfaddef eu bod yn deall yr Iaith ond yn
gyndyn o’i siarad gyda chwsmeriaid oherwydd diffyg hyder. Mae pobl yn cefnu ar
yr Iaith yn flynyddol ac o gofio beth ddigwyddodd gyda pholisi Iaith ‘Sports
Direct’ yn ddiweddar, credaf yn gryf y dylid cael mwy o statws i’r Iaith a
chefnogaeth i’r bobl fyddai’n fodlon ail-afael yn y Gymraeg.
Fy ail bwynt yw fy awydd i weld mwy o hanes Cymru ar gwricwlwm hanes ein
hysgolion. Er ein bod yn dathlu hanes Owain Glyndŵr yn y cynradd, prin iawn yw sôn am ein tywysogion a ffigurau fel Hywel
Dda ar y cwricwlwm uwchradd. Y trydydd datblygiad hoffwn ei weld ydy cerdyn
teithio bysiau am ddim i bobl ifanc. Byddai cael teithio am ddim yn sicrhau yr
un mynediad i weithgareddau allgyrsiol ysgolion yn ogystal â gweithgareddau
mewn cymunedau.