Roedd Eleri yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
Tlodi plant
Gorbryder sy'n
gysylltiedig â phwysau arholiadau
Effaith
negyddol y cyfryngau cymdeithasol
Wrth glywed am y swydd hon, roeddwn i'n hynod frwdfrydig ac yn llawn cyffro
i gael cyfle i gynrychioli barn pobl ifanc yn fy ardal leol. Fy nhref i gartref
yw Merthyr Tudful, er fy mod yn falch o fynychu Ysgol Gyfun Rhydywaun, ysgol
uwchradd fawr cyfrwng Cymraeg yng Nghwm Cynon. Fe hoffwn fod yn rhan o'r Senedd
Ieuenctid a byddwn yn mwynhau'r cyfle i ddod yn aelod etholedig. Byddai hyn yn
rhoi cyfle imi leisio fy marn ar y tri phrif fater a nodwyd.
Rwyf wedi bod yn aelod etholedig o gyngor fy ysgol am 3 blynedd ac yn yr
amser hwnnw rwyf wedi cael hyfforddiant helaeth ar hawliau plant. Mae'r cyngor
ysgol wedi caniatáu llwyfan imi fynegi barn ac edrych ar y materion sy'n
effeithio ar bobl ifanc yn fy ysgol i ac yn y gymuned leol.
Rwy'n credu y dylai pobl ifanc bleidleisio drosof i am eu bod nhw’n gallu
ymddiried ynof fi i’w cynrychioli a chyfleu eu barn mewn ffordd glir, gryno.
Rwy'n gymeriad rhadlon ac yn siaradwr cyhoeddus hyderus. Mae hyn yn amlwg gan
fy mod i wedi cymryd rhan yn ddiweddar ac wedi cyrraedd rownd derfynol Cymru o
ddadl fawr yr RSPCA a gynhaliwyd ym Mae Caerdydd.