Datganiad
Ymgeisydd: Bydd dod yn aelod o Senedd Ieuenctid yn rhoi cyfle unigryw i mi i
ledaenu fy ngwybodaeth ac i ymroi i ddod yn llais ar gyfer Ieuenctid Cymru.
Rwy'n rhugl mewn
pum iaith: Saesneg, Cwrdeg, Twrceg, Ffrangeg, ac ychydig o Gymraeg. Rwy'n
fyfyriwr yn Ysgol San Sulien, lle rwy'n cwblhau fy TGAU. Cefais fy ngeni yn
Llundain, a fy ieithoedd cyntaf yw Cwrdeg a Thwrceg.
Deuthum yn aelod
o'r Blaid Lafur yn Nwyrain Casnewydd am fod gen i ddiddordeb mewn
gwleidyddiaeth. Mae Jessica Morden, AS Dwyrain Casnewydd, wedi bod yn fodel rôl
rhagorol i mi, ac rwyf yn ei hedmygu ac yn ceisio ei hefelychu. Rwy'n fenyw
ifanc hunan-sicr, allblyg a brwdfrydig sy'n anelu at wneud gwahaniaeth a bod yn
llais i bobl ifanc ledled Cymru.
Fel aelod o'r
Senedd Ieuenctid, rwy'n bwriadu gwella ein cymuned, ein hamgylchedd a'n
hiechyd. Byddaf yn gweithio'n galed i gael mwy o ganolfannau cymunedol ar gyfer
ieuenctid Cymru. Byddaf hefyd yn ceisio gwella ein hamgylchedd trwy annog pobl
ifanc yng Nghymru i gymryd rhan mewn materion amgylcheddol. Byddaf hefyd yn
canolbwyntio ar eich iechyd a'ch llesiant yng Nghymru ar gyfer pobl ifanc sy'n
profi problemau iechyd emosiynol a meddyliol.