Roedd Iago yn
Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma eiddatganiad
pan oeddynymgeisyddyn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid Cymru:
Fy mhrifystyriaethau:
Achubeinhamgylchedd
Cyflecyfartalibawb
Iechyd
a lles plant
Datganiad
Ymgeisydd: Rwyf yn credu mewn creu Cymru well, sydd yn rhoi y cyfleon gorau i
holl blant a phobl ifanc Cymru. Credaf fod pawb yn cael eu geni yn gyfartal. Dylai
pob plentyn gael yr un cyfle i gyrraedd ei lawn botensial mewn Addysg, dim ots
beth yw ei gefndir. Rhaid ceiso diddymu tlodi plant a
rhoi sylw i iechyd a lles pob plentyn. Dylai amddiffyn ein hamgylchedd fod yn
flaenoriaeth i bawb. I wneud hyn rhaid dysgu byw yn fwy cynaliadwy drwy roi
diwedd ar blastig defnydd sengl, hybu y newid o danwydd ffosil i egni adnewyddol
er enghraifft egni y gwynt, yr haul, hidro a llanw i
greu Cymru werdd. Creu rhwydwaith o lonydd beicio drwy Gymru sydd yn saff ac yn
hwylys i deithio i’r ysgol neu i waith. Rydw i fel
person yn credu’n gryf mewn gwrando ar safbwyntiau pobl eraill, trafod a phwyso
a mesur cyn dod i benderfyniad. Pe bae’r byd yn le teg a chydradd, ni fuaswn i
yn gwneud yr enwebiad hwn, ond gan nad ydyw, mae angen i bobol ifanc Cymru gymeryd cyfrifoldeb i wella ein byd. Rydw i yn credu mai
gwleidyddion a gwleidyddiaeth yw’r allwedd i’r newid hwn.