Roedd Luke yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Materion sy'n
effeithio ar y gymuned LHDTC+
- Iechyd meddwl
oedolion ifanc
- Cwricwlwm am
oes
Rwyf wedi bod â diddordeb mewn gwleidyddiaeth ers amser maith. Pan glywais
am Senedd Ieuenctid Cymru, roeddwn yn awyddus i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc
yn cael eu clywed. Mae gen i gysylltiadau cryf â'r gymuned LGBTQ+, felly rwyf
am chwarae fy rhan wrth sicrhau bod y gymuned honno yn cael ei chlywed hefyd.
Byddaf yn cyfleu barn pobl ifanc eraill drwy'r cyfryngau cymdeithasol.
Byddaf yn cysylltu â sefydliadau LGBTQ+ ledled Cymru i egluro'r safbwynt hwn,
gan ofyn pa faterion y maent yn awyddus i mi eu codi. Byddaf yn sicrhau fy mod
yn adrodd yn ôl i'r sefydliadau hyn ar ôl cyfarfodydd a digwyddiadau'r Senedd
Ieuenctid ac i ofyn eu barn cyn mynd i'r cyfarfodydd a'r digwyddiadau hyn.
Rwyf wedi bod yn gynrychiolydd ar Fforwm Ieuenctid Caerffili ers dros 3
blynedd. Mae gen i lawer o brofiad o gynrychioli llais pobl ifanc, gan sicrhau
bod materion yn cael eu trafod a'u datrys. Rwyf wedi gweithio ar sawl prosiect
fel sefydlu grŵp
LGBTQ+ yn y Gwasanaeth Ieuenctid ac ymgyrch i godi ymwybyddiaeth o faterion
iechyd meddwl. Ar hyn o bryd, rwy'n gweithio ar ymgyrch yn erbyn bwlio, sef
#byebyebystanders.
Edrychaf ymlaen at gynrychioli Gwasanaeth Ieuenctid Caerffili a'r gymuned
LGBTQ+ yn benodol.