Roedd Rhys yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Cyllid ar gyfer
gweithgareddau allgyrsiol
- Rhagor o help i
fyfyrwyr MATh
- Newid y pynciau
gorfodol ar gyfer TGAU
Hoffwn fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru gan fod nifer o agweddau y mae
Llywodraeth Cymru yn eu hesgeuluso, yn bennaf o ran pobl ifanc ac addysg.
Er enghraifft, mae gwasanaethau addysg yng Nghymru yn brin ar hyn o bryd ac
mae cyllid ar gyfer pynciau ‘nad ydynt yn academaidd’ fel cerddoriaeth, drama a
chwaraeon yn cael eu torri'n gynyddol, ac mae angen i'r llywodraeth sylweddoli,
er bod Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth yn bynciau hynod bwysig, bod pethau
eraill sydd hefyd yn bwysig.
Hefyd, er y gall fod yn ddefnyddiol, mae dewis gorfodol Bagloriaeth Cymru
ar gyfer TGAU wedi lleihau nifer y pynciau y gall myfyrwyr yng Nghymru eu
hastudio ar gyfer TGAU o bedwar i dri. Nid yw llawer o fyfyrwyr yn ei gymryd o
ddifrif, ac felly ystyrir ei fod yn wastraff amser, a dylid ei wneud yn
ddewisol.
Os caf fy ethol, byddaf yn gwneud yn siŵr bod pob person ifanc yn etholaeth
Preseli Sir Benfro yn cael lleisio ei farn os yw’n dymuno ei fynegi. Ar ôl bod yn aelod o gyngor yr ysgol mewn
pedair blwyddyn ysgol wahanol, rwy’n brofiadol yn y maes hwn, ac yn siaradwr cyhoeddus da.
Byddaf yn ceisio gwneud Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o safbwyntiau pobl
ifanc ym Mhreseli Sir Benfro.