Datganiad yr
Ymgeisydd: Rwy'n gwneud cais i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru i gwrdd â
phobl ifanc o'r un anian sydd eisiau gwella'r byd ar gyfer cenedlaethau'r
dyfodol. Tra bod ein llywodraeth yn parhau i gael trafferth a cholli
ymddiriedaeth, nid yn unig y gall pobl ifanc weld beth yw’r gwir broblemau
heddiw, ond gweld hefyd beth fydd problemau yfory - rydym am i'n lleisiau gael
eu clywed.
Fel aelod o SIC,
gobeithiaf gynnwys pobl ifanc o bob cefndir mewn materion cyfoes a materion yn
y dyfodol drwy wneud iechyd meddwl a chorfforol dinasyddion Cymru yn y dyfodol
yn brif flaenoriaeth, wrth i broblemau fel cynhesu byd-eang ddod yn fwy amlwg.
Er mwyn gwrthsefyll llygredd mewn ardaloedd trefol, byddaf yn hyrwyddo
pwysigrwydd tyfu coed ac adeiladu tai gwyrdd, cynaliadwy. Byddaf yn ceisio
cynyddu nifer y gweithgareddau allgyrsiol a chlybiau ieuenctid sydd ar gael i
bobl ifanc yn eu harddegau yng Nghasnewydd ac yng Nghymru o gymharu â phlant
iau. Mae Casnewydd yn falch o fod yr ail ddinas fwyaf amrywiol yng Nghymru, ond
nid oes cyfleusterau yma i leihau gwahaniaethu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol
ymhlith pobl ifanc.
Rwy’n credu fy
mod yn ymgeisydd teilwng gan fy mod wedi siarad â phobl sy’n ei chael hi’n
anodd i ymdopi yng Nghymru, ac rwyf wedi codi dros £1000 at achosion
amgylcheddol a dyngarol. Rwyf hefyd yn mynd i brotestiadau yn rheolaidd sy’n
galw am gyfiawnder i ddioddefwyr creulondeb yr heddlu, phrotestiadau o ran
hiliaeth a ffoaduriaid.
Diolch