Datganiad
ymgeisydd: Hoffwn i fod yn Aelod Senedd Ieuenctid Cymru gan fy mod i’n credu fy
mod i’n ac yn ddigon hyderus i'ch cynrychioli chi a'ch ardal leol i'r safon
uchaf. Dw i'n aelod o’m grŵp
streic hinsawdd lleol, y cyngor ieuenctid a’r tîm rygbi. Dw i'n aelod gweithgar o’m cymuned a dw i'n deall pwysigrwydd
llais pobl ifanc.
Rydyn ni’n wynebu
mater mwyaf ein cenhedlaeth, a dyw'r rhai sydd mewn grym ddim yn gwneud digon.
Ers cyfnod rhy hir, mae'r bai am newid hinsawdd wedi'i symud i bobl a
theuluoedd fel ni, pobl normal sy'n gweithio a myfyrwyr. Os dw i’n cael fy
ethol, bydda’ i’n gwneud popeth yn fy ngallu i ddwyn y rhai sy'n gwneud
penderfyniadau a'r euogion yn atebol am eu gweithredoedd, fel dw i wedi bod yn
lleol hyd yn hyn.
I lawer o bobl
fel fi, mae chwaraeon yn rhan hanfodol o fywyd. Mae'n fy nghadw i'n hapus ac yn
iach, yn gorfforol ac yn feddyliol. Pe bawn i'n cael fy ethol, byddwn i’n
sicrhau bod ein hysgolion lleol a'r cyngor yn dyrannu cyllid i chwaraeon
allgyrsiol a thimau lleol beth bynnag yw eu rhyw, eu hethnigrwydd a’u
galluoedd.
Mae'n bryd i lais
pobl ifanc Cymru gael ei gymryd o ddifrif, dw i'n teimlo'n gryf mai fi yw'r
ymgeisydd i weithio ochr yn ochr â chi.