Datganiad yr
Ymgeisydd: Ers pan oeddwn i'n ifanc, rwyf wedi breuddwydio am fedru gwneud
gwahaniaeth. Roeddwn wastad am i fy marc ar y byd, boed yn fawr neu'n fach, fod
yn rhywbeth a fyddai’n cael ei argraffu mewn llyfrau hanes, hyd yn oed pe bai'r
llwyddiannau hyn yn ddienw.
Rwyf bob amser
wedi cael fy synnu gan botensial pobl ifanc, ac rwy’n ei gweld yn anhygoel sut
y gall unrhyw un ohonom, er gwaethaf cefndir, ethnigrwydd neu gred fod â
dyheadau. Fe allwn ni dyfu, a dysgu unrhyw beth a ddymunwn.
Dyna pam rwy'n
llwyr gredu, waeth beth yw eich rhyw neu’ch oedran, fod pawb yn haeddu cael
dweud eu dweud yn y byd maen nhw'n byw ynddo. Nid yw'r byd hwn yn gartref i'n
henuriaid yn unig - ein dyfodol ni ydyw. Rydyn ni fel pobl ifanc yn haeddu cael
ein clywed, ac mae ein dyfodol yn haeddu cael ei ddiogelu.
Pe bawn i’n
sefyll fel ymgeisydd ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru, byddwn yn gwneud fy
ngorau glas i sicrhau y byddech yn cael cyfle cyfartal i bleidleisio ar yr hyn
sy'n bwysig i chi, ni waeth pwy ydych chi. Rwy'n berson sy’n hawdd siarad â hi,
ac rwy'n poeni cymaint - am y pethau sy'n wirioneddol bwysig.
Mae ein pobl
ifanc yn un o'r pethau gwirioneddol bwysig hyn - rwy’n addo hynny.