Roedd William yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Rhwystrau i
bobl fyddar
- Llygredd
- Bwlio
Helo, fy enw i yw William. Rwy'n 11 oed ac rwy'n byw yn y Mwmbwls gyda fy
Mam, fy Nhad, un brawd hŷn
a dwy chwaer fach. Ar hyn o bryd, rwyf ym mlwyddyn 7 yn Ysgol Gyfun Bishop
Gore. Rwy'n mwynhau chwarae ar fy Xbox a chwarae pêl droed, a dydw i ddim yn
hoffi bwyta brocoli.
Byddaf yn gwneud fy ngorau glas i wrando ar bawb ac i sicrhau bod y nifer
fawr o faterion sy'n codi yng Nghymru yn cael eu cydnabod a'u datrys. Mae rhai
o'r materion yr wyf yn teimlo'n gryf iawn amdanynt yn cynnwys: rhwystrau
cymdeithasol ac addysgol sy'n wynebu pobl fyddar, llygredd a bwlio.
Rwy'n credu y dylech bleidleisio drosof fi i fod yn aelod o Senedd
Ieuenctid Cymru oherwydd fy mod yn pryderu am y rhwystrau sy'n wynebu pobl
fyddar. Y rheswm am hyn yw fy mod i, fel person byddar, wedi dod ar draws rhai
o'r rhwystrau hyn fy hun, ac rwy'n credu bod angen mynd i'r afael â nhw. Rwy'n
pryderu am lygredd oherwydd fy mod yn byw yn y Mwmbwls, sy'n bentref
arfordirol, ac rwyf wedi gweld fy hun effaith ofnadwy llygredd ar fywyd gwyllt
yn y môr ac ar y tir. Rwyf hefyd yn pryderu am fwlio oherwydd gall ddifetha
bywyd person yn rhwydd, nid dim ond y person sy'n wynebu'r bwlio ond y bwli ei
hun. Hefyd, gall achosion o fwlio fod mor ddifrifol weithiau eu bod yn cyfri
fel troseddau ac mae'n rhaid galw'r heddlu. Byddaf yn gwneud fy ngorau i
ddatrys y problemau hyn.