Dadl

Cyhoeddwyd 03/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 18/11/2021   |   Amser darllen munud

Mae penderfyniadau’n aml yn cael eu gwneud drwy drafod pynciau a chyflwyno barn, atebion a dewisiadau amgen. Beth am roi eich sgiliau dadlau ar brawf drwy ddadlau am bynciau sy'n bwysig i chi yng Nghymru?

Gallai pobl ifanc sefyll fel ymgeisydd yn etholiadau nesaf Senedd Ieuenctid Cymru os hoffent gynrychioli barn pobl ifanc ar lefel genedlaethol.    
 
Datganiadau dadlau defnyddiol: Mae wastad yn syniad da dechrau gydag ambell ddatganiad dadlau ysgafn sy'n ffordd o dorri’r iâ cyn dechrau trafod pynciau mwy difrifol. 

  •  Mae siocled yn well na losin
  • Mae'r haf yn well na'r gaeaf 
  • Dylid addysgu pobl ifanc yn well am wleidyddiaeth yn yr ysgol 
  • Dylid cyfyngu faint o ddeunydd lapio y mae busnesau’n cael ei ddefnyddio ar eitemau un defnydd 
  • Dylai fod yn rhaid i chi dalu am bresgripsiynau yng Nghymru
  • Dylai pobl sy'n gollwng sbwriel wynebu dirwyon trymach    
     

Syniadau da ar gyfer cynnal dadl: 

  1. Gosod rheolau i sicrhau y bydd eich dadl yn rhedeg yn esmwyth (gan gynnwys terfyn amser i drafod pob pwnc). Mae hyn yn cynnwys gwrando ar eraill, parchu safbwyntiau pobl eraill a herio'r datganiad yn hytrach na’r person wrth gynnig eich safbwynt .
  2. Penodi cadeirydd. Enw cadeirydd y Senedd yw’r Llywydd.  Mae'r Llywydd hefyd yn cadeirio cyfarfodydd Senedd Ieuenctid Cymru. Ei rôl yw galw ar siaradwyr a helpu i gadw'r ddadl dan reolaeth.
  3. Cael dadl ar unrhyw beth rhwng 5 a 10 o bynciau a chael hwyl! Pwy a ŵyr, efallai y byddwch chi'n meddwl am syniad newydd ar gyfer eich ysgol neu'ch grŵp ieuenctid.
  4. Cyflwynwch eich materion i Senedd Ieuenctid Cymru.