Ymgyrch i Gofrestru Pleidleiswyr

Cyhoeddwyd 03/06/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 07/06/2021   |   Amser darllen munudau

Bydd pleidleiswyr Senedd Ieuenctid Cymru yn gallu cofrestru rhwng 28 o Fai a 12 Tachwedd.

Beth am gymryd rhan drwy droi rhan o’ch ysgol, coleg neu glwb ieuenctid yn lle i gofrestru pleidleiswyr?

Anogwch gynifer o bobl ifanc â phosibl i godi eu llais a chofrestru i bleidleisio yn etholiad nesaf Senedd Ieuenctid Cymru.

Bydd yr etholiadau yn cael eu cynnal ym mis Tachwedd 2021 a byddant yn gyfle i bobl ifanc fod yn rhan o broses ddemocrataidd yng Nghymru, a phleidleisio dros bwy yr hoffent i’w cynrychioli.

Syniadau da ar gyfer creu hyb i gofrestru pleidleiswyr:

  1. Creu rota yr hyb fel y gall rhai dosbarthiadau gofrestru ar yr un pryd yn eich ystafelloedd TG
  2. Gofyn i bob dosbarth cofrestru neilltuo 5 munud i bobl ifanc gael cofrestru i bleidleisio gan ddefnyddio eu dyfeisiau symudol
  3. Agor eich ystafelloedd TG bob amser cinio drwy gydol yr wythnos fel lle i bobl ifanc alw heibio er mwyn cofrestru i bleidleisio.

Nid oes angen i rai oedd wedi cofrestru i bleidleisio yn etholiadau Senedd Ieuenctid Cymru 2018 wneud hynny eto. Byddent yn derbyn e-bost ar 3 Mehefin 2021 yn cadarnhau eu bod yn parhau i fod wedi cofrestru i bleidleisio. Byddent yn derbyn cod pleidleisio a chyfarwyddiadau trwy e-bost ar 1 Tachwedd 2021.

Dim ond ychydig funudau y bydd yn eu cymryd i gofrestru i bleidleisio, a byd angen y wybodaeth ganlynol:

  • Enw
  • Cod post (cartref neu ysgol)
  • Cyfeiriad e-bost
  • Dyddiad Geni