Beth am ddechrau

Cyhoeddwyd 20/11/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Yn gynharach eleni, fe wnaethoch ddweud wrthym eich bod am gael senedd ieuenctid i'ch cynrychioli chi, a heddiw mae gennym newyddion cyffrous!

Senedd-Header.png

Gofynnwyd i chi beth fyddech chi am enwi eich senedd ieuenctid – heddiw gallwn gyhoeddi mai'r enw a ddewiswyd gennych yw…

Senedd Ieuenctid Cymru

Gallwn hefyd ddweud wrthych y bydd eich Senedd Ieuenctid Cymru:

  • Yn cynnal ei etholiadau cyntaf ym mis Tachwedd 2018
  • Yn cynnwys 60 Aelod a fydd yn eich cynrychioli chi ar y materion sy'n bwysig i chi.
  • Bydd Aelodau rhwng 11 a 18 oed.


Rydym yn gwneud yn siŵr y bydd eich Senedd Ieuenctid Cymru yn llais diduedd, gan ei gwneud yn gwbl annibynnol ar bob plaid wleidyddol.
 

FELLY BETH NESAF…

Wel…

  • Rydym yn gweithio ar bennu dyddiad er mwyn cofrestru i bleidleisio dros Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ac
  • Rydym wrthi'n edrych ar y manylion ynghylch pryd a sut y gallwch chi gynnig eich hun i fod yn Aelod, os yw hynny'n rhywbeth y byddech yn hoffi ei wneud.

Byddwn yn cysylltu â chi yn fuan gyda rhagor o wybodaeth.

- Tîm Senedd Ieuenctid Cymru