Yma yn Senedd Ieuenctid Cymru, ry’n ni’n falch i weithio gyda sefydliadau arbennig sy’n gweithio gyda phobl ifanc o bob cefndir ar draws Cymru. Yn ystod ei hail dymor, bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn gweithio gyda 18 sefydliad partner, a dros y misoedd nesaf, byddwn yn cymryd cipolwg ar bob un ohonynt ar ein gwefan ac ar y cyfryngau cymdeithasol.
Yr wythnos hon rydym yn cymryd cipolwg ar ein sefydliad partner, Gymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru.
Gymdeithas Genedlaethol Plant Byddar Cymru
Mae’r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar yn gweithio i greu byd heb rwystrau i bob plentyn byddar. Rydym yma i gynorthwyo a grymuso pob plentyn byddar - ni waeth beth tyw lefel neu natur eu byddardod na sut y maent yn cyfathrebu.
Rydym yn rhoi cymorth arbenigol ar fyddardod plant. Rydym yn gweithio gyda phobl ifanc fyddar i godi ymwybyddiaeth ac i ymgyrchu dros hawliau plant byddar. Mae ein gwasanaethau’n cynnwys gweithgareddau cymdeithasol a chynllun penpals. Mae gennym raglen fentora, grwpiau gweithredu a Bwrdd Cynghori Pobl Ifanc. Gallwn gynnig cymorth a chyngor, sesiynau gwybodaeth ac amrywiaeth eang o weminarau.
Rydym yn falch iawn ein bod wedi’n dewis i fod yn bartner i Senedd Ieuenctid Cymru. Mae hwn yn gyfle gwych i berson ifanc byddar gael ei ethol i’n cynrychioli yn y Senedd.
Mae’r cyfle hwn ar gael i unrhyw un o’n haelodau byddar, 11-17 oed, sy’n byw yng Nghymru, i wneud cais i fod yn ymgeisydd. Bydd ein hetholiad yn cael ei gynnal ar The Buzz, yr unig wefan i bobl ifanc fyddar yn y DU, rhwng 1 ac 15 Tachwedd.
Dyma ddywedodd rhai o’n haelodau ifanc o Gymru am ymgyrchu a gweithredu fel rhan o’r Gymdeithas.
“Ers bod ar y Bwrdd Cynghori Pobl Ifanc, rwyf wedi magu hyder ac wedi dysgu sut i leisio barn am faterion sy’n bwysig i mi. Y peth gorau am fod yn aelod o’r Bwrdd yw dod i adnabod pobl newydd a dysgu pethau newydd.”
Miriam, aelod o’r Bwrdd Cynghori Pobl Ifanc
“Y peth gorau am fod yn aelod o’r Bwrdd Cynghori yw cyfarfod â phobl fyddar eraill.”
Rhys, aelod o’r Bwrdd Cynghori Pobl Ifanc
“Mae gweithredu’n bwysig i mi oherwydd rwy’n teimlo y dylem fyw mewn byd lle nad oes rhwystrau’n wynebu pobl fyddar. Mae hefyd yn creu ymdeimlad o berthyn, wrth ymgyrchu gyda phobl sy’n wynebu’r un problemau â chi.”
Twm, cyn aelod o’r Bwrdd Cynghori Pobl Ifanc