Cofio'r Holocost

Cyhoeddwyd 24/01/2020   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Mae’n ddiwrnod cofio’r holocost. 75 mlynedd ers diwedd y rhyfel, mae’r un faint mor berthnasol ag erioed. Dyma hanes fy nheulu i. 

Yn Wittenberg, yn yr Almaen, roedd fy hen hen dad-cu Dr Paul Bosse wedi priodi â fy hen hen fam-gu Käthe Bosse, ac yn byw gyda’u pedwar o blant. Llawfeddyg llwyddiannus iawn oedd Paul, ac fe wnaeth e a’i dîm achub llawer o fywydau ar ôl damwain leol, ffrwydrol, gan gwmni oedd yn gweithio â ffrwydron i gloddio am lo. Roedd hyn yn 1935, yn nyddiau cynnar Hitler fel arweinydd yr Almaen, ac roedd Paul mor adnabyddus yn ei waith y daeth Hitler ei hun i ymweld â’r ysbyty, i’w longyfarch e a’i dîm am helpu cymaint o bobl. 

Dyma lun ohonof yn ystod fy nhaith i’r Almaen llynedd, lle cefais y cyfle i gyflwyno hanes fy nheulu yn Wittenberg.

Dyma lun ohonof yn ystod fy nhaith i’r Almaen llynedd, lle cefais y cyfle i gyflwyno hanes fy nheulu yn Wittenberg.

Roedd Käthe, gwraig Paul, o waed Iddewig. Er bod y Natsiaid yn ymwybodol o hyn, dywedon nhw wrth Paul y byddai ef, ei wraig, a’i blant yn ddiogel ac yn cael eu gwarchod, gan fod Paul mor werthfawr yn feddygol i drigolion yr Almaen. Dyma’r rheswm pam wnaeth Käthe, na Paul, erioed feddwl am ffoi - roeddent yn credu y byddent yn ddiogel. 

Yn 1933, rhoddodd y Natsiaid ddewis anghredadwy o annheg i Paul. Naill ai ysgaru â’i wraig Iddewig, neu golli ei swydd. Er ei fod yn caru ei waith, ac yn wych amdano- roedd e’n caru ei wraig, a’r teulu oedd yn dod gyntaf iddo. Cafodd ei ddi-swyddo yn 1935, a sefydlodd, gyda’i wraig, Klinik Bosse yng nghartre’r teulu- ysbyty i fenywod beichiog a’u babanod. Roedd yr ysbyty yma yn llwyddiant aruthrol, yn hollbwysig drwy wasanaethu Wittenberg ac roedd lleuanod yn ei gynorthwyo i redeg yr ysbyty. Yn ddiweddar cafodd y stryd lle’r oedd yr ysbyty ei hailenwi yn “Bosse Strasse” (Stryd Bosse) i gofio ac i gymerydwyo’r gwaith gwych a wnaeth Paul ac i gofio am hanes y teulu. 

Tua diwedd 1944, ychydig cyn diwedd yr ail ryfel byd, cymerwyd Käthe i wersyll crynhoi Ravensbrück, lle cafodd ei lladd. Ni wyddwn hyd heddiw beth oedd yr amgylchiadau yn union, ond gallwn wybod â sicrwydd iddi golli ei bywyd dan amgylchiadau ofnadwy o greulon, am ei bod yn Iddewes.

AdobeStock_125199209.jpeg

Dros 75 mlynedd ar ôl diwedd y rhyfel, gallwn fod yn ddiolchgar - rydym ni’n gallu dysgu am werth bywyd, a pha mor beryglus yw gwahaniaethu ar unrhyw sail. Dysgu pwysigrwydd parch, cariad, ac empathi tuag at ein cyd-ddyn. Mae’n bwysig cofio, nid yn unig galaru dros y bywydau a gollwyd, a’r teuluoedd a chwalwyd, ond hefyd, edrych i’r dyfodol. Rhaid i ni ddysgu o’r hanes ac estyn allan i’r rheiny sydd angen cymorth heddiw, i lenwi’r byd â chariad a dealltwriaeth, yn lle cenfigen a chasineb. 

Daeth un o blant Paul a Käthe i’r Alban, yn ffoadur. Ei henw hi oedd Kate, fy hen fam-gu. Priododd hi Gymro, a gyda’i gymorth e, dysgodd hi Gymraeg yn rhugl a symud i’r Rhondda am ei fod yn athro yno; roedd hi’n awyddus i integreiddio, a pherthyn i’w gwlad newydd. Magodd hi ei phlant (yn cynnwys fy nhad-cu) yn uniaith Gymraeg. Mae hi’n arwres i mi- rwy’n meddwl ei fod yn anhygoel, y ffordd wnaeth hi ymfalchïo yn ei bywyd newydd gyda breichiau agored.

75 mlynedd ar ôl diwedd y rhyfel, dydy’r casineb ddim ar ben. Ar y foment, mae mwy na 10.4 miliwn o bobl yn byw fel ffoaduriaid yn fyd-eang, gyda bron hanner ohonynt yn blant. Pe bai neb wedi helpu ffoaduriaid yr ail ryfel byd, byddwn i ddim yma heddiw. Ac mae rhyfeloedd yn dal i barhau yn Syria, Iraq, ac Affganistan, gyda’r trigolion yno angen ein cefnogaeth yn fwy nac erioed.

Cyflwyno hanes fy nheulu yn ystod taith i’r Almaen llynedd.

Cyflwyno hanes fy nheulu yn ystod taith i’r Almaen llynedd.

Cymerwch y cyfle i sefyll yn erbyn yr holl anghyfiawnder a chasineb dall sy’n dal i fod yn y byd. Estynnwch law allan i’r rheiny sydd yn dal i ddioddef, wrth gyfrannu at elusen, wrth godi ymwybyddiaeth, ac ymgyrchu i dderbyn ffoaduriaid. Rhaid croesawu mwyfwy o bobl i’n gwlad, â breichiau agored, i ddechrau bywyd newydd, diogel.

Yn ysbryd y cofio, lledaenwch gariad.