Ffion
Shw’mae ddarllenwyr!
Mae wyth o’r gloch y bore yn swnio braidd yn gynnar i godi ar fore dydd Sadwrn, ond roedd y cyffro o feddwl am fynd i gyfarfod rhanbarthol arall gyda Senedd Ieuenctid Cymru wedi rhoi egni newydd i mi (ac roedd yn rhaid i mi fod yno ar amser!).
Gwych oedd cael gweld aelodau ymroddgar eraill y Senedd Ieuenctid eto, yn ogystal â’r staff hyfryd, a chawsom amser gwych yn rhannu’n grwpiau gan chwarae gêm gychwynnol i’n deffro.
Aled
Ar ôl cyrraedd ac esbonio patrwm y dydd, fe wnaethom rannu’n dimau o chwech aelod. Ar ôl i ni ffurfio’n dimau, cawsom bapur wedi’i wasgu’n belen, ac yna roedd yn rhaid i ni ddefnyddio ein dwylo i’w bownsio yn yr awyr.
Doedden ni ddim yn llwyddiannus iawn! Ond rhywsut cefais fy newis i fynd i’r rownd derfynol a oedd yn fy nghynnwys i, Gwion, a Carys. Ewch! Fe ddechreuon ni bownsio’r bêl, i fyny ac i lawr, i fyny ac i lawr. Yn fuan roedd Gwion allan o’r gêm, a dim ond fi a Carys oedd ar ôl wedyn – cefais innau fownsiad gwael a hedfanodd y bêl bapur ar draws yr ystafell a minnau ar ei hôl hi.
Carys oedd enillydd y Gêm bapur Olympaidd!
Ffion
Aethom i’n pwyllgorau dewisol wedyn, yn seiliedig ar y bleidlais yn y senedd yn ystod y cyfarfod preswyl fis Chwefror: sef, cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, sbwriel a gwastraff plastig a sgiliau bywyd yn y cwricwlwm. Edrychwyd ar brif faterion ein pwyllgor gan ystyried y gwaith y mae’r Cynulliad wedi’i wneud eisoes, gan adrodd yn ôl i’r grwpiau eraill am ein darganfyddiadau.
Rydw i ar y pwyllgor cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl, ac roeddwn i a holl aelodau eraill y pwyllgor yn falch iawn o glywed bod y Llywodraeth wedi gwario saith miliwn o bunnoedd yn ychwanegol ar gymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl. Ie, saith miliwn!
Cytunwyd, serch hynny, ei bod hi’n bwysig iawn ein bod yn gweld effaith y buddsoddiad yma, nid yn unig ar Gymru ond ar ieuenctid Cymru hefyd.
Aled
Penderfynais i fod yn y grŵp sy’n mynd i’r afael â gwastraff plastig. Ar ôl i ni rannu’n grwpiau, ein tasg gyntaf oedd rhestru’r holl bethau y gallem eu gwneud i leihau gwastraff plastig.
Rhai enghreifftiau, gan ddechrau mewn ysgolion oedd, lleihau faint o boteli a gwellt plastig a ddefnyddir, ac yna gallem ymestyn hyn yn ddiweddarach i gynnwys adeiladau a swyddfeydd cyhoeddus. Ar y pwnc ysgolion, gallem sicrhau bod gan bob ysgol ffynhonnau dŵr er mwyn lleihau gwastraff plastig. Mae rhai ysgolion sy’n cyfrif faint o boteli plastig a arbedir!
Hefyd, nodwyd gennym y dylid symleiddio’r system casglu ailgylchu o roi bagiau, sy’n cymryd llawer o amser ac sy’n lleihau apêl ailgylchu.
Nesaf, o’r holl bwyntiau ar y rhestr, dewiswyd ein tri phrif bwynt, sef ‘Plastigau defnydd untro’, ‘Annog y cyhoedd’ ac ‘Ysgolion ac addysg’. Mae’r pwynt ‘plastigau defnydd untro’ yn ymwneud â lleihau plastigau defnydd untro, mae ‘Annog y Cyhoedd’ yn ymwneud â rhoi ffynhonnau dŵr mewn canol dinasoedd, rhagor o gymhellion ar gyfer casglu deunydd i’w ailgylchu, gwobrwyo?
Yn olaf, mae ‘Ysgolion ac addysg’ yn cyfeirio at gynyddu’r arfer o ailgylchu mewn ysgolion, cynllun gwisgoedd ysgol ail-law (hynny yw, pan fyddwch yn tyfu’n rhy fawr i eitem o’ch gwisg ysgol rydych yn ei chyflwyno i’r ysgol, a gall yr ysgol ei gwerthu’n rhad, a helpu i leihau faint o wisgoedd ysgol a deflir). Yn olaf, roedd trafodaeth hefyd ar y syniad o roi poteli dŵr y gellir eu hailddefnyddio i ddisgyblion am ddim.
Ffion
Ar ôl cinio hynod flasus, yr oedd hi’n amser trafod Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru), sef yn fras, y gwaharddiad rhag defnyddio bwrw fel cosb ar gyfer plant. Aethom ati i ystyried hawliau plant yn ogystal âg effaith defnyddio bwrw fel cosb arnynt gan hefyd gymharu’r dull yma gyda dulliau cosbi eraill.
Yr oedd yn hynod ddiddorol clywed barn aelodau eraill y Senedd Ieuenctid, boed o blaid neu yn erbyn, a chynhaliwyd pleidlais wedyn fel bod gan y Cynulliad a Llywodraeth Cymru gynrychiolaeth o farn ieuenctid.
Cawsom drafodaeth grŵp arall yn ein pwyllgorau eto wedyn, wrth feddwl am yr hyn rydym angen ymchwilio iddo er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol i’n mater ar raddfa genedlaethol. Dewiswyd pedwar cwestiwn i ymchwilio iddynt gan hefyd ystyried sut y gallwn gasglu gwybodaeth er mwyn deall yn union beth sy’n pryderu ieuenctid Cymru am iechyd meddwl.
Mae’n glir o’n gwaith ymchwil, ac o’r drafodaeth a gafwyd cyn cloi’r cyfarfod, bod gennym gynlluniau pendant i gysylltu’n uniongyrchol â chi, ieuenctid Cymru. Yn bersonol, rwy’n gwybod fy mod i’n gyffrous iawn i gael cwrdd a chlywed barn cymaint o ieuenctid Cymru ac sy’n bosibl.
Ymlaen â ni i’r cyfarfod rhanbarthol nesaf felly!