"Dechreuad perffaith i gael gwleidyddion Cymru, a phellach, i wrando arnom ni"

Cyhoeddwyd 22/05/2017   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Gwyliwch Siwan yn trafod sut mae hi eisiau senedd ieuenctid i’w chynrychioli hi a phobl ledled Cymru

TRAWSGRIFIAD FIDEO:

Fi'n teimlo bod Senedd Ieuenctid Cymru yn mynd i fod yn gyfle gwych i bobl ifanc Cymru cael llais nhw wedi clywed.

Ac fel rhywun sy'n teimlo'n gryf dros y ffaith y dylen ni cael pleidlais yn 16, hwn yw'r dechreuad perffaith i gael gwleidyddion Cymru, a phellach i wrando arnom ni a sylweddoli bod gan bobl ifanc weledigaethau a barn eu hunain am wleidyddiaeth, am faterion sy'n bwysig iddyn nhw. 

Fi'n teimlo weithiau falle fod 11 falle ychydig yn ifanc i ddechrau pobl ym myd gwleidyddiaeth ond hefyd, o ddawn yr oedran 'na a chadw nhw ym myd gwleidyddiaeth, falle bydd yr oedran pleidleisio 18-24 yn tyfu a bydd gwleidyddion yn sylweddoli wedyn bod hi'n bwysig talu sylw i bobl ifanc a bod materion ni yn cyfri yr union yr un faint â'r bobl 'na sy’n pleidleisio sy'n hŷn na ni.

Fel ni 'di bod yn trafod yng nghyfarfodydd Bwrdd SyrIfanc, sef bwrdd pobl ifanc Urdd Gobaith Cymru, roedd teimlad fanna hefyd bod hwn yn gyfle gwych i bobl ifanc Cymru.

Mae'r Bwrdd yn rhoi cyfle i bobl yr Urdd drafod, ond mae hwn yn mynd un cam ymhellach yn rhoi'n llais ni ar lefel genedlaethol a gobeithio, bydd 'na seneddau ieuenctid eraill ar draws y byd eisiau cydweithio gyda ni a falle yn y dyfodol i ddod, byddwn ni, y bobl ifanc, yn arwain y ffordd ym myd gwleidyddiaeth.