Defnyddia Dy Lais! Rapio A Phleidleisio Yn Ystod Etholiad Senedd Ieuenctid Cymru!

Cyhoeddwyd 10/11/2021   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 22/11/2021   |   Amser darllen munud

Mae mis Tachwedd 2021 ond golygu un peth; mis etholiad Senedd Ieuenctid Cymru! Hwn fydd yr ail etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru, etholiad ar-lein sy’n digwydd o 1 i 22 Tachwedd. Dyma gyfle i bobl ifanc ledled Cymru, 11 oed hyd at 18 oed, ddefnyddio eu llais a phenderfynu pwy maen nhw eisiau i gynrychioli eu hardal leol neu etholaeth nesaf yn Senedd Ieuenctid Cymru.

Nod Senedd Ieuenctid Cymru yw:

  • Grymuso pobl ifanc Cymru i nodi materion sy’n bwysig i ti, codi ymwybyddiaeth ohonyn nhw a’u trafod.
  • Gwrando ar bobl ifanc yng Nghymru, cynrychioli dy farn a gweithredu ar y materion sy’n bwysig i ti.
  • Gweithio gyda phobl sy’n gwneud penderfyniadau pwysig i godi’r materion hyn a galw am newid.

Defnyddio eu llais a chodi materion sy’n bwysig iddyn nhw oedd y ffocws mewn gweithdy bît-bocsio a gynhaliwyd gyda chymorth yr unigryw Mr Phormula yn ddiweddar. Daeth dros 20 o bobl ifanc o naw ysgol uwchradd wahanol ledled Cymru ynghyd yn rhithwir i greu trac sain sy’n pwysleisio pa mor bwysig yw defnyddio dy lais.

Yn ôl Mr Phormula,

“Trwy gyfuno miwsig gyda rap a sgwennu creadigol, mae’n bosib cyfleu negeseuon a phynciau mewn ffordd unigryw a modern, yn enwedig gyda’r genhedlaeth iau. Mae rap yn grefft sydd yn boblogaidd yn rhyngwladol a phrif elfen rap ydi’r ‘llais’. Be well na chyfuno lleisiau ein pobl ifanc yma yng Nghymru a chymysgu neges Senedd Ieuenctid Cymru gyda rap a defnyddio miwsig i yrru’r neges ar draws y tonfeddi!”

 

Wedi eu hysbrydoli gan sgiliau Mr Phormula, ymatebodd y bobl ifanc a gymerodd ran i’r her o rapio’n rhithiol!

 

“Cawsom lawer iawn o hwyl yn y gweithdy gyda Mr Phormula. Roedd hi’n braf cael cydweithio gydag ysgolion eraill a gallu parhau â gweithgareddau fel hyn, er yn rhithiol. Yn ystod y sesiwn roedd cyfle i rannu materion yr hoffem ni i’r Senedd Ieuenctid newydd fod yn trafod. Un peth sy’n bwysig i ni yw edrych ar fwy o weithgareddau a chefnogaeth i bobl ifanc sy’n byw a dewis aros yng nghefn gwlad. Mae’n bwysig iawn bod pawb yn cofrestru ac yn pleidleisio yn etholiad Senedd Ieuenctid Cymru fel bod pobl yn medru clywed ein llais.”

- Gwennan, Bryn, Gwen a Wyre, Ysgol Penweddig

Beth am fynd amdani a rapio gyda’r trac sain? Byddai’n dda clywed llais ein pobl ifanc ledled Cymru yn ystod etholiad Senedd Ieuenctid Cymru!

Cofia!

Mae’r cyfle i gofrestru i bleidleisio yn cau ddydd Gwener 12 Tachwedd

Dyddiadau’r etholiad: 1-22 Tachwedd 2021

Beth am ddefnyddio ein hadnoddau ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol i rannu’r neges am etholiad Senedd Ieuenctid Cymru?