Adroddiad gan Tegan Skyrme
(gydag Angharad Earles)
Cynhaliwyd deuddegfed Senedd Ieuenctid y Gymanwlad yn Wellington, Seland Newydd ym mis Medi 2024, gyda phobl ifanc yn cynrychioli 37 o diriogaethau o'r naw rhanbarth sy'n rhan o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad. Roedd y rhaglen yn gyfle i’r cynadleddwyr ddatblygu eu sgiliau a’u gwybodaeth am ddemocratiaethau seneddol a phrosesau deddfwriaethol, tra’n dathlu diwylliannau o bob rhan o’r byd. Roeddwn mor falch o gynrychioli’r Senedd a Chymru yn Senedd Ieuenctid y Gymanwlad, gan allu eiriol dros bobl ifanc ag anableddau a’r gymuned LHDTC+. Roedd hefyd yn gyffrous cael cwrdd â phobl ifanc eraill sy'n angerddol am wleidyddiaeth ac actifiaeth ac i ddysgu sut mae eu llywodraethau'n rhedeg. Roedd cael profiad o ddiwylliant Seland Newydd yn gyfle anhygoel. Fy hoff ran o’r profiad heb os oedd cwrdd â chynifer o bobl anhygoel.
Dros y pedwar diwrnod o fusnes seneddol yn y Senedd-dŷ hanesyddol a'r Adain Weithredol; sy’n cael ei adnabod fel ‘y Cwch Gwenyn’ oherwydd ei siâp unigryw, rhannwyd cynrychiolwyr y cenhedloedd yn bleidiau a phwyllgorau i drafod darn o ffug-ddeddfwriaeth. Roeddwn yn aelod o’r wrthblaid leiaf fel aelod o’r Oceanic Progress Party (OPP) gyda phedwar o gynadleddwyr eraill; gan gynnwys y cynrychiolydd o'r Deyrnas Unedig a oedd yn arweinydd y blaid. Roedd dadlau’r Bil yn y Siambr ac awgrymu gwelliannau iddo yn ystod cyfarfodydd y Pwyllgor yn rhoi gwell syniad i mi o sut mae prosesau seneddol yn gweithio a’r hyn sydd ei angen i greu deddfwriaeth. Ymysg gwaith y rhaglen ac ymweld ag uchafbwyntiau Wellington roeddwn hefyd yn gwneud atgofion hyfryd gyda ffrindiau oes o bob rhan o'r byd. Rwy’n ddiolchgar iawn i’r Llywydd, Rhun ap Iorwerth AS, Cadeirydd y Gangen ac i bawb yng Nghangen y Senedd o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad am roi’r cyfle i mi gynrychioli Cymru yn Senedd Ieuenctid y Gymanwlad. Mae'n rhaid i mi roi sylw arbennig i ba mor hygyrch y gwnaeth Senedd Seland Newydd bopeth i mi. Roeddent yn sicrhau bod yr holl ddogfennau yr oeddwn eu hangen mewn Braille, ac roeddwn bob amser yn gwybod ble roeddwn i fod a beth oedd yn digwydd. Ni chefais fy nhrin yn wahanol oherwydd fy mod i’n ddall, a theimlais fy mod wedi fy nghynnwys ym mhob rhan o’r broses, felly diolch i’r staff, Angharad o Senedd Ieuenctid Cymru a ddaeth gyda mi, a’m cyd-gynadleddwyr.
Diwrnod 1
Dechreuodd y diwrnod cyntaf gyda pōwhiri, sef seremoni groesawu Māori, yn cynnwys whaikōrero (araith ffurfiol), waiata (canu) a kai (bwyd), a hongi, sef croeso Mãori a fynegir gan rwbio neu gyffwrdd trwynau. Pan fydd yr hongi yn cael ei berfformio gyda chi fel ymwelydd, mae hyn yn dynodi nad ydych chi bellach yn ymwelydd yn unig, ond yn hytrach yn tangata panua, sydd yn ei hanfod yn golygu eich bod yn unedig â'r rhai sy'n perfformio'r hongi gyda chi. Cafodd bod un ohonom wahoddiad i rannu hongi gyda staff ac ASau Senedd Seland Newydd. Mae'r pōwhiri, sef seremoni i benderfynu pwy sy’n ffrind neu’n elyn wedi'i drwytho mewn traddodiad, ac wedi'i addasu ar yr un pryd i swyddfeydd a lleoedd eraill. Croesawodd y seremonïau traddodiadol hardd hyn yr holl gynrychiolwyr i Seland Newydd ac roeddent yn dechrau’n swyddogol y rhaglen ar gyfer deuddegfed Senedd Ieuenctid y Gymanwlad.
Yn ystod y rhaglen byddai'r cynadleddwyr yn Aelodau Seneddol ar gyfer ynys ffuglennol Okifenua, y bumed ynys fwyaf yn Ne'r Môr Tawel. Yn dilyn pōwhiri a hongi, fe wnaethom ni rannu’n grwpiau plaid i ethol ein harweinwyr plaid, prif chwipiaid, a gweinidogion llywodraeth. Ar ôl cinio roedd agoriad y senedd a’r cynrychiolwyr yn tyngu llw. Ein llefarwyr y tŷ ar gyfer y rhaglen oedd Teanau Tuiono AS Rhestr y Blaid Werdd a Francisco Hernandez AS Rhestr y Blaid Werdd. I nodi diwedd diwrnod cyntaf ein rhaglen waith, cyflwynwyd y Bil Ailsefydlu Newid Hinsawdd a Chymorth Dyngarol i’r Tŷ. Er i’r Bil gael ei gyflwyno gan y Llywodraeth Glymblaid, roedd fy mhlaid yn cefnogi ei gyflwyno gyda’r angen am welliannau cyn y gellid ei basio. Daeth y diwrnod i ben gyda thaith o amgylch ystâd Senedd Seland Newydd. I mi, rhai o uchafbwyntiau’r daith oedd y newidiadau y gellid eu gwneud i addasu’r adeilad yn hygyrch, gan gynnwys eu map cyffyrddol o’r ystâd a’r Siambr. Maent hefyd yn darparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd yn y siambr o Māori i Saesneg yn ystod sesiynau, fel y gwnawn gyda'r Gymraeg yn y Senedd.
Cyn dechrau'r rhaglen, doeddwn i ddim yn gwybod llawer am sut mae bil yn cael ei basio drwy'r Senedd, felly dysgais lawer mewn amser byr. Roedd hyd yn oed pethau roeddwn i'n meddwl roeddwn i'n eu deall yn gwneud mwy o synnwyr ar ôl cael profiad uniongyrchol ohonynt. Roedd eistedd mewn plaid a dilyn rheolau a moesau’r siambr yn rhoi dealltwriaeth ddyfnach i mi o sut mae senedd yn gweithredu. Pryd bynnag roeddwn i'n teimlo allan o'm dyfnder, roedd y staff bob amser yn hapus i egluro pethau, ac roedd fy nghyd-gynadleddwyr yn hyfryd ac yn gefnogol hefyd.
Diwrnod 2
Ar ôl ein te a choffi boreol yn ystod y sesiwn friffio dyddiol i ddechrau’r dydd, fe wnaethom ni rannu’n bleidiau gwleidyddol gyda mentoriaid. Roedd gan bob plaid aelod o staff o Senedd Seland Newydd wrth law i ateb unrhyw gwestiynau, ynghyd ag AS a allai roi arweiniad i ni. Datblygais fy sgiliau gwaith tîm ac fe ddes i’n llawer mwy hyderus yn fy ngwybodaeth wleidyddol yn ystod y cyfarfodydd plaid. Yn ystod y cyfarfod plaid, buom yn trafod pa welliannau yr oedd ein plaid am eu codi yn ystod cyfarfodydd Pwyllgor y prynhawn. Rhwng y pump ohonom, roedd gennym gynrychiolydd ym mhob un o'r Pwyllgorau i godi pwyntiau, gyda ffocws ar weithredu hinsawdd uchelgeisiol. Arweiniodd canol y bore at ddadl gyntaf y Siambr ar y Bil. Ar ddiwedd y ddadl hon, cafwyd pleidlais gyntaf, gyda’r mwyafrif ohonom o blaid pasio’r Bil. Arweiniodd ein cyfarfodydd pwyllgor yn y prynhawn at lawer o drafodaethau ar ba welliannau yr oedd eu hangen i sicrhau bod y Bil yn cael ei basio yn y senedd. Roeddwn yn rhan o Bwyllgor yr Amgylchedd a oedd yn berffaith, oherwydd rwy'n wirioneddol angerddol am faterion amgylcheddol. Cafodd un o’r gwelliannau a awgrymais ar gyfer y Bil ei gymeradwyo a’i gefnogi gan aelodau o bob plaid yn y Pwyllgor. Dim ond dau welliant y gallai pob pwyllgor eu cyflwyno ar gyfer y Bil cyfan, a dewiswyd fy un i fel un o’r ddau a gyflwynwyd gan Bwyllgor yr Amgylchedd. Byddai’r gwelliannau hyn yn cael eu codi yn ystod y ddadl siambr nesaf a dim ond un gwelliant fesul cymal fyddai’n cael ei basio.
Y noson honno, cynhaliwyd derbyniad i'r holl gynrychiolwyr gan Uchel Gomisiynydd Prydain yn Seland Newydd; Iona Thomas OBE, ym mhreswylfa Homewood. Yr adeilad pren trawiadol gynadleddwyr oedd y lle i i’n croesawu ni y cynadleddwyr, yr ASau oedd yn ein mentora, Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad a staff Senedd Seland Newydd, a’r rhai a oedd yn gweithio i Uchel Gomisiynydd Prydain, am noson o rwydweithio a rhannu ein profiadau. Bûm yn trafod â sawl un am fy amser gyda Senedd Ieuenctid Cymru a’r newidiadau cadarnhaol yr oeddem yn eu gwneud ar ran pobl ifanc Cymru. Roedd yn noson bleserus, pan wnaethom lawer o gysylltiadau a dysgais ragor am ddemocratiaethau y cynadleddwyr eraill.
Diwrnod 3
Neilltuwyd y trydydd diwrnod i sesiynau siambr. Yn y bore roedd sesiwn gwestiynau, lle bu’r llywodraeth glymblaid yn destun craffu ar y Bil a gyflwynodd i’r Tŷ. Aeth ein sesiwn Siambr yn y prynhawn ymlaen gyda chyfnod olaf darllen y Bil – gwelliannau. Cyflwynodd pob un o’r pedwar pwyllgor ddau welliant yr un ar gyfer y Bil. Darllenwyd pob gwelliant a phleidleisiwyd arnynt. Dim ond un gwelliant fesul cymal a basiwyd.
Diwrnod 4
Ar ddiwrnod olaf y rhaglen, cynhaliwyd Dadl Gryno’r Aelodau. Roedd hwn yn gyfle i bob plaid wneud rhai datganiadau ar y Bil Ailsefydlu Newid Hinsawdd a Chymorth Dyngarol cyn y byddai pleidlais arno y prynhawn hwnnw. Yn ystod y ddadl gryno, fi wnaeth un o’r ddau ddatganiad ar ran fy mhlaid, sef yr Oceanic Progress Party, a oedd yn brofiad anhygoel. Yn ystod fy natganiad, siaradais am sut roedd y blaid yn cytuno â rhai gwelliannau a basiwyd ar gyfer y Bil, ond nad oedd rhai wedi bod yn ddigon radical. Roedd hyn yn canolbwyntio ar sut y dylai Okifenua fod yn ymestyn cefnogaeth i'r rhai mewn angen, gan ystyried bod y wlad wedi'i hadeiladu a'i hehangu gan fewnfudwyr. Cafodd fy natganiad dderbyniad da gan y Tŷ ar ddwy ochr y sbectrwm gwleidyddol.
Ar ôl cinio aeth nifer o gynrychiolwyr ar daith gylchol o Wellington gyda Celia Wade-Brown AS, aelod o’r Blaid Werdd. Aeth hi a’i staff â ni ar daith hanesyddol o amgylch y ddinas o ystaâd y Senedd, gan dynnu sylw at fannau hanesyddol a diwylliannol o ddiddordeb, cerdded ar hyd y glannau cyn dod i ben wrth Senotaff Wellington. Celia Wade-Brown oedd y drydedd faer fenywaidd yn Wellington, gan wasanaethu am ddau dymor yn gynnar yn y 2010au. Cefais drafodaeth wych gyda hi ynghylch y seilwaith sydd yn ei le yn Wellington ar gyfer y rhai â nam ar eu golwg.
Dechreuodd ein sesiwn prynhawn gyda Dadl Gryno Arweinwyr y Pleidiau, lle rhoddodd arweinydd pob plaid ddatganiad cloi ar ran eu plaid ynghylch y Bil. Cafwyd areithiau gwych yn llawn brwdfrydedd. Dilynwyd hyn gan bleidlais yn y Tŷ, lle rhoddodd y Llefarydd bleidlais ar y Bil Adsefydlu Newid Hinsawdd a Chymorth Dyngarol diwygiedig, a chafodd ei basio gan y llywodraeth glymblaid a’r Oceanic Progress Party. Roedd y bleidlais yn nodi diwedd pedwar diwrnod cynhyrchiol a chalonogol, lle buom i gyd yn gweithio’n galed ond yn dod ynghyd â syniadau a chysyniadau newydd i wella’r Bil gwreiddiol. Roedd yn gymaint o fraint gweithio ochr yn ochr â chynifer o bobl ifanc ysbrydoledig sydd â dyfodol mor ddisglair o’u blaenau. Rwy’n mawr obeithio y gallwn gydweithio eto ar brosiectau yn y dyfodol a pharhau i feithrin cyfeillgarwch rhwng pobl ifanc ar draws y Gymanwlad.
Ar y noson olaf, roedd Senedd Seland Newydd wedi trefnu seremoni gloi a chinio ar gyfer pawb oedd yn rhan o’r rhaglen, dan ofal Llywydd Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad, Anrh. Ben Franklin a Teanau Tuiono AS; un o'n Llefarwyr y Tŷ yn ystod y rhaglen. Gwahoddwyd cynrychiolydd o bob un o'r naw rhanbarth yn Senedd Ieuenctid y Gymanwlad i roi araith. Cefais wahoddiad i siarad ar ran Ynysoedd Prydain, Tiriogaethau Tramor a Môr y Canoldir. Yn ystod fy araith diolchais i’r staff a oedd wedi gwneud y digwyddiad yn bosibl ac i Angharad, ynghyd â nodi'r fath brofiad anhygoel oedd y cyfle hwn, faint roeddwn i wedi’i ddysgu am wahanol ddiwylliannau a gwahanol fathau o lywodraeth, a’r anrhydedd oedd cael cynrychioli Cymru a bod yn eiriolwr dros bobl ag anableddau. Roedd y pryd nos yn wledd o fwyd o Seland Newydd, er fel llysieuwr wnes i ddim rhoi cynnig ar y cig oen! Gorffennom gyda chacen ben-blwydd i'r tri chynadleddwr oedd wedi dathlu eu penblwyddi yn ystod y rhaglen.
Casgliad
Wrth edrych yn ôl ar yr wythnos anhygoel a gefais, roedd yn wir yn anrhydedd cael cynrychioli Cymru yn Senedd Ieuenctid y Gymanwlad. Cyn mynd, roeddwn yn ansicr ynghylch yr effaith y gallwn ei chael mewn gofod o'r fath. Fodd bynnag, roedd cymryd rhan mewn ffug senedd wedi cryfhau fy safbwynt o ran cynrychioli pobl ifanc Cymru a’r rheini o fewn y gymuned ddall, a hynny drwy ddatblygu fy nealltwriaeth o basio deddfwriaeth. Er mai Bil ffug a basiwyd, mae cysyniad Bil Ailsefydlu Newid Hinsawdd a Chymorth Dyngarol yn y byd go iawn ymhell o fod yn anwiredd. Er i ni ddadlau’n ffyrnig ar hyd llinellau ein pleidiau, daethom at ein gilydd i sefydlu cysyniadau newydd y gallem oll fynd â nhw gyda ni i effeithio ar ein bywydau yn y dyfodol. Cefais gymaint allan o'r profiad hwn – yn ogystal â dysgu mwy am wleidyddiaeth mewn gwahanol wledydd, cefais hefyd brofiad o ddiwylliant anhygoel Seland Newydd. Roedd fy mhrofiad yn Senedd Ieuenctid y Gymanwlad yn fythgofiadwy ond hefyd yn ddadlennol – dysgodd i mi y gallaf weithredu newid, ac y gall pobl ifanc gynrychioli’r newid y maent yn dymuno’i weld. Os yw'r profiad hwn wedi dysgu unrhyw beth i mi, mae'n bwysig peidio â diystyru fy hun a chofio taflu fy hun i mewn i unrhyw gyfle a ddaw. Rydw i mor falch o fod wedi cael fy newis, a gwn y bydd yr atgofion hyn yn aros gyda mi am byth. Diolch yn fawr iawn i’r Senedd, Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad a Senedd Seland Newydd am y cyfle hwn ac am ysgogi’r genhedlaeth nesaf o ddarpar Seneddwyr.