Mae pob aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn gwenu at y camera yn y Siambr

Mae pob aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn gwenu at y camera yn y Siambr

Ein Penwythnos Preswyl: Diweddariadau, Myfyrdodau, a Diolch Enfawr

Cyhoeddwyd 19/12/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 19/12/2025

Beth Ddigwyddodd a Pryd?

Ein penwythnos preswyl diweddar Senedd Ieuenctid Cymru (21-23 Tachwedd), ddaeth â’n Haelodau at ei gilydd o bob rhan o Gymru ar gyfer trafodaethau pwysig, gwaith tîm, a hwyl! Uchafbwynt y penwythnos oedd ein sesiwn Lawn[MC1] , lle ymgasglodd pawb i rannu diweddariadau ac i ddathlu cerrig milltir.

 

Mae un aelod o WYP yn sefyll ac yn cyflwyno araith tra bod yr aelodau eraill yn gwrando - yn y siambr

 

Uchafbwyntiau’r Pwyllgorau a Diweddariadau Allweddol

Cafodd y Pwyllgor Trosedd a Diogelwch sylw hefyd, gan rannu canfyddiadau ei ymgynghoriad a lansio’r adroddiad sef, Yn Ddiogel, wedi’u Cynnwys a’u Clywed.

Mae’r adroddiad hyn yn cynrychioli misoedd o waith caled a lleisiau o bob cwr o Gymru, gan ganolbwyntio ar sut y gallwn wneud ein hysgolion a’n colegau’n fwy diogel a chynhwysol. 

Yn ystod y sesiwn lawn, rhoddodd y Pwyllgor Costau Byw a Thlodi a’r Pwyllgor Trafnidiaeth Gyhoeddus a Theithio Llesol ddiweddariadau i ni am eu gwaith parhaus. Mae hyn yn enghraifft wych o sut mae’r pwyllgorau hyn yn mynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar bobl ifanc pop dydd.

Roedd y sesiwn hefyd yn foment arbennig yn ein hanes, hon oedd y sesiwn lawn olaf dan gadeiryddiaeth y Llywydd, Elin Jones AS.

Ar y ddechrau, fe wnaethom ni gymryd amser i ddiolch iddi am ei chefnogaeth anhygoel a’i harweinyddiaeth drwy gydol ei hamser gyda Senedd Ieuenctid Cymru. Roedd yn foment emosiynol a’n hatgoffodd o faint rydym wedi’i gyflawni gyda’n gilydd. 

 

y Llywydd yn tynnu hunlun gyda chynghorwyr SIC o’r gorffennol a’r presennol

 

Edrych Ymlaen: Camau Nesaf a Digwyddiadau Hwyl

Y tu allan i’r sesiwn lawn, cawsom gyfarfodydd pwyllgor i gynllunio ein camau nesaf a digon o amser ar gyfer gweithgareddau hwyliog fel bowlio. Roedd y rhain yn ein helpu i uno fel grŵp ac rhoi egni o’r newydd i ni ar gyfer y gwaith sydd o’n blaenau.

Gadawsom y penwythnos yn teimlo’n falch, yn llawn cymhelliant, ac yn barod i barhau i wneud gwahaniaeth. Pop hwyl i bopeth y byddwn yn ei gyflawni nesaf!

 

Roedd aelodau wedi eistedd o gwmpas bwrdd yn esmwyth


 [MC1]Mae sesiwn lawn yn gyfarfod ffurfiol lle mae holl Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn dod at ei gilydd i drafod materion allweddol, rhannu diweddariadau, a gwneud penderfyniadau fel grŵp cyfan. Mae’n rhan bwysig o waith y Senedd, gan roi llais i bob Aelod a sicrhau bod cynnydd ar bwyllgorau a chyrchoedd yn cael ei rannu’n agored.