Yn aml, caiff pobl ifanc eu cyhuddo o fod heb ddiddordeb ac wedi eu dadrithio gan wleidyddiaeth.
Ond 'does dim angen edrych ymhellach nag ymdrechion Jeremy Corbyn i hudo’r genhedlaeth ifanc neu’r ymateb angerddol a gafwyd i’r bleidlais Brexit fel tystiolaeth o'n diddordeb gweithredol mewn materion gwleidyddol.
Yr allwedd at gynnau diddordeb mewn gwleidyddiaeth yng Nghymru yw medru efelychu’r fath frwdfrydedd wrth drafod testunau sy’n berthnasol i ni yma.
Yn ôl ymchwil diweddar gan Gymdeithas Hansard, nid oes gan Gymru fel gwlad ddealltwriaeth na ddiddordeb helaeth mewn materion gwleidyddol.
I fod yn gywir, mae gan Gymru lai o ddealltwriaeth gwleidyddol nag unrhyw wlad arall y Deyrnas Unedig.
Mae angen rhywbeth felly sy'n medru ymgysylltu pobl â gwleidyddion er mwyn meithrin diddordeb gwleidyddol y genhedlaeth newydd. Rwy'n credu, heb amheuaeth, bod lansio’r Senedd Ieuenctid yn gwireddu'r dyhead yma.
Cymru yw’r wlad olaf yn Ewrop i ffurfio Senedd Ieuenctid ac, er gwaethaf yr oedi, rydym nawr ar droethwy euraidd i gyfrannu tuag at ddatblygiad democratiaeth ein gwlad.
Un feirniadaeth sy’n cael ei thargedu at bobl ifanc yn rheolaidd yw nad oes gennym ddealltwriaeth ddigonol i gyfrannu at drafodaethau gwleidyddol.
Mae’r pwynt yma’n codi’n aml wrth drafod rhoi’r bleidlais yn 16 oed. Mae'r Senedd Ieuenctid yn cynnig sylfaen i bobl ifanc o bob cefndir i feithrin dealltwriaeth o wleidyddiaeth ein gwlad.
Trwy ymgymryd â'r broses ddemocrataidd a chael llwyfan i drafod amrywiaeth o bynciau treiddiol, y gobaith yw y bydd y Senedd Ieuenctid yn arwain at genhedlaeth o bobl ifanc wybodus am wleidyddiaeth ac o'n hawliau democrataidd i leisio barn a datblygu polisiau.
Wrth lansio Senedd Ieuenctid Cymru yn Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed, cadarnhaodd Llywydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Elin Jones AC, y byddai pobl o bob cwr o Gymru yn medru sefyll yn yr etholiad.
“Llais cenedlaethol democrataidd i bobl ifanc ein gwlad” - lansio @SeneddIeuenctid gyda @complantcymru @BwrddSyrIfanC yn @EisteddfodUrdd pic.twitter.com/VUSW5EuDi0
— Y Llywydd (@yLlywydd) May 31, 2018Heb os, mae cynrychiolaeth ranbarthol yn bwnc tanboeth yng Nghymru ac mae'n holl bwysig fod gan bobl ifanc o bobl ardal o Gymru y cyfle i drafod problemau ac anawsterau lleol ar lwyfan cenedlaethol yn ogystal â chynnig safbwyntiau newydd ac arloesol. Mae angen y blwraliaeth yma wrth geisio ddod o hyd i atebion i’r problemau hynny.
Mae gwleidyddion yn datgan byth a hefyd eu bod yn gwrando a'n gwerthfawrogi mewnbwn pobl ifanc - mae'r Senedd Ieuenctid yn rhoi'r cyfle nawr iddynt fedru gweithredu ar eiriau a dyheadau'r genhedlaeth ifanc.
Yn ystod y lansiad cefais gyfle i gyfweld â'r Llywydd ac Aelod Cynulliad dros Geredigion, Elin Jones.
Yn falch o gyhoeddi yn @EisteddfodUrdd fod y cyfnod cofrestru ar gyfer pleidleisio yn etholiadau cyntaf Senedd Ieuenctid Cymru wedi agor. Mae pob person ifanc rhwng 11 ac 18 oed yn gallu cofrestru rhwng nawr a mis Tachwedd. @SeneddIeuenctid @WelshYouthParl @Urdd pic.twitter.com/6s4k1Cly6E
— Y Llywydd (@yLlywydd) May 31, 2018Roedd hi'n awyddus i bwysleisio'r arwyddocâd o gael cynrychiolaeth ledled Cymru yn y Senedd Ieuenctid.
“Bydd y broses o ethol, o gofrestru ac o gael ymgeiswyr o bob rhan o Gymru, ynghyd ag etholiadau cyffrous ymhob etholaeth, yn ysgogi ymwybyddiaeth o ddemocratiaeth.”
Mae ymwybyddiaeth gadarn o ddemocratiaeth yn sicr yn hollbwysig er mwyn cyflawni datblygiad gwleidyddol. Ond rwy'n credu fod gwleidyddiaeth draddodiadol yng Nghymru ac yn fwy cyffredinol ym Mhrydain wedi pwysleisio yn pwysleisio'n ormodol ar y pleidiau gwleidyddol, yn hytrach na ffocysu ar y drafodaeth.
Yn absenoldeb gwleidyddiaeth bleidiol, bydd modd i aelodau’r Senedd Ieuenctid canolbwyntio’n ddirwystr ar y trafodaethau sy’n ymgodi, heb y rhyfyg a’r ddrama sy’n perthyn i nifer o drafodaethau gwleidyddol cyfredol.
Mae gan bob unigolyn y gallu i gyfrannu’n ystyrlon at drafodaethau sy’n deillio o’i ddiddordeb personol.
Atgyfnerthodd Elin Jones y pwysigrwydd o drafod pynciau a thestunau sydd o diddordeb i bobl ifanc, gan bwysleisio bod gan wleidyddion ddyletswydd i ysgogi diddordeb ymysg pobl ifanc.
“Mae cyfrifoldeb arnom ni sy’n wleidyddion heddiw i fod yn gweithio mewn ffyrdd gwahanol i annog pobl ifanc i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, nid jyst gwleidyddiaeth bleidiol, ond materion sydd o ddiddordeb iddyn nhw fel pobl ifanc, pynciau penodol. Ma’ hynny’n gallu bod yn amrywiol iawn o drafnidiaeth, i swyddi, i addysg.”
Rwy'n teimlo'n angerddol bod y Senedd Ieuenctid yn ymgyrch a allai atgyfnerthu gwreiddiau gwleidyddiaeth yma yng Nghymru, yn ogystal â a chynyddu dealltwriaeth gwleidyddol a pharodrwydd pobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd. Ond, mae gallu’r Senedd Ieuenctid i gyflawni ei llawn botensial yn llwyr ddibynnol ar ewyllysgarwch gwleidyddion i wrando ac i weithredu ar syniadau’r ieuenctid.
Fel y dywedodd Elin Jones;
“Mae rhaid caniatáu i'r bobl ifanc hynny sy’n cael eu hethol i Senedd Ieuenctid cyntaf Cymru i berchen ar y materion sy’n bwysig iddyn nhw, ac i adlewyrchu Cymru gyfan yn hynny o beth. Ac i fod yn heriol i ni, y Senedd arall, ac i ddweud wrthym ni'r hyn sy’n flaenoriaeth iddyn nhw, a'r hyn maen nhw eisiau gweld yn newid. Ein cyfrifoldeb ni yw gwrando ar eu llais nhw, ac i drafod yr hyn maen nhw wedi’u gosod fel blaenoriaethau ar ein cyfer ni”.
Er bod gwaith pellach i'w wneud i sicrhau bod y Senedd Ieuenctid yn gweithredu’n effeithiol, mae’r arwyddion cynnar yn argoeli’n addawol ar ei gyfer gyda'r penderfyniad i gofrestru ac i bleidleisio’n ddigidol. Mae'r weithred arloesol yn gosod cynsail newydd i ddemocratiaeth yng Nghymru ac yn arwydd calonogol bod y Senedd Ieuenctid yn cydnabod tueddiadau pobl ifanc ac yn fodlon teilwra ei wedd i sicrhau fod gan bob person ifanc fynediad i gofrestru ac i bleidleisio.
Heb amheuaeth rydym mewn cyfnod hynod gyffrous yn hanes gwleidyddiaeth Cymru.
Rwy’n rhagweld y bydd Senedd Ieuenctid Cymru yn chwarae rôl bwysig wrth gynyddu diddordeb gwleidyddol ymysg pobl ifanc, yn ogystal at agtgyfnerthu cynsail democrataidd ein gwlad.
Yr heriau tyngedfennol i sicrhau llwyddiant y Senedd yw sicrhau bod lleisiau ledled Cymru yn cael eu clywed yn glir, a bod y cydweithio a'r trafod yn cael eu hadlewyrchu yng ngweithredodd a deddfwriaeth y Cynulliad. Yn ngeiriau’r moesolwr, Joseph Joubert, "Pwrpas dadl neu drafodaeth yw datblygiad, nid buddugoliaeth." Mae gan Senedd Ieuenctid Cymru felly'r cyfle i drawsnewid democratiaeth ein gwlad.