Gwn y byddwch yn gwneud pobl ifanc Cymru’n falch

Cyhoeddwyd 18/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Roedd Rhagfyr y 5ed yn ddiwrnod arbennig yn hanes ein Cynulliad Cenedlaethol. Diwrnod pan roddwyd llais i bobl ifanc ein gwlad drwy ethol Senedd Ieuenctid gyntaf erioed Cymru.  

Ond beth mae hyn wir yn ei olygu i chi a’ch ffrindiau? Sut fydd y Senedd Ieuenctid yn berthnasol i chi ac yn cael effaith positif ar eich bywydau? 

Gadewch i mi egluro drwy ddechrau yn y dechrau. 

Y Llywydd yn lansio Senedd Ieuenctid Cymru yn Eisteddfod yr Urdd, 2018

Y Llywydd yn lansio Senedd Ieuenctid Cymru yn Eisteddfod yr Urdd, 2018

Mae sôn wedi bod am sefydlu Senedd Ieuenctid i Gymru ers blynyddoedd maith. Mae’n achos sy’n agos at fy nghalon i a nifer o Aelodau eraill y Cynulliad, a drwy gynnal sgyrsiau a rhannu syniadau, adeiladodd y momentwm y tu ôl i’r egwyddor y dylech chi bobl ifanc Cymru gael cynrychiolaeth ddemocrataidd gan eraill o’r un oedran a chi ac sy’n deall y materion sy’n bwysig i chi. 

“ROEDD HI’N HOLLBWYSIG FOD POBL IFANC WRTH GALON Y FENTER O’R CAM CYNTAF.”

 Gwnaed cyswllt uniongyrchol gyda phob ysgol yng Nghymru gyda llwyth o wybodaeth yn cael ei rannu ar y cyfryngau digidol am ffurf a phwrpas y Senedd ac, yn bwysicach na dim, sut i sefyll fel ymgeisydd a phleidleisio.  

Sefydlwyd partneriaethau gyda mudiadau megis Youth Cymru, Voices from Care a Barnardo’s Cymru er mwyn sicrhau fod y Senedd mor amrywiol a chynhwysol a phosib. 

Talodd yr ymdrechion hyn ar eu canfed gyda nifer gwych o enwebiadau i fod yn ymgeiswyr – dros 470. Cofrestrodd bron i 25,000 ohonoch i gymryd rhan yn yr etholiad gyda phob pleidlais yn cael ei bwrw ar-lein – yr etholiad cyntaf o’i fath yn y byd. Enghraifft arall o bobl ifanc Cymru yn creu hanes! 

Penllanw’r holl waith hyn oedd ethol 60 o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ar y 5ed o Ragfyr ac roeddwn yn hynod falch o gyhoeddi enw pob un yn Siambr y Cynulliad Cenedlaethol. 

DehKShJX0AEIQMp.jpg

Nawr fod y syniad o greu Senedd wedi dod yn fyw, mae’r gwaith o gynrychioli eich safbwyntiau a’ch buddiannau chi yn dechrau o ddifrif. 

Y penwythnos hwn, bydd y Senedd Ieuenctid yn cynnal ei chyfarfod llawn cyntaf erioed yn Siambr y Cynulliad ym Mae Caerdydd – yr union le y mae Aelodau Cynulliad yn trafod, yn craffu, ac yn pleidleisio ar y materion sy’n effeithio eich bywydau chi a phawb o bobl Cymru bob dydd. 

Gobeithio fod rhai ohonoch eisoes wedi cael blas ar beth fydd gan y deuddydd i’w cynnig drwy fynychu cyfarfodydd rhanbarthol dros yr wythnosau diwethaf.  

Myfyrio, herio, anghytuno neu gydweithio - dyma eich cyfle cyntaf i ddod ynghyd â phrofi’r swyddogaeth arbennig o gynrychioli safbwyntiau eich cymunedau a’ch cyfoedion wrth galon democratiaeth Cymru. 

Ar ddydd Mercher fe wnaeth @YLlywydd datgelu enwau'r 60 fydd yn Aelodau #SeneddIeuenctidCymru.
Gwyliwch y fideo yn llawn ar ein sianel ar YouTube: https://t.co/dCul5CnCx7

Dewch i adnabod yr Aelodau a beth hoffen nhw ei drafod: https://t.co/zY7tmUCQSk pic.twitter.com/EPJO8hMNwE

— Senedd Ieuenctid Cymru (@SeneddIeuenctid) December 8, 2018

Rwy’n cofio fy niwrnod cyntaf yn y Cynulliad Cenedlaethol bron i ugain mlynedd yn ôl.

Rwy’n mawr obeithio y byddwch yn rhannu’r cyffro, y cynnwrf a’r fraint yr oeddwn i’n ei brofi’r diwrnod hwnnw – ac ydi, mae ychydig o nerfau yn gwbl naturiol! 

Pob dymuniad da i chi gyda’r gwaith ac rwy’n edrych ymlaen yn fawr at eich croesawu i’r Senedd a dilyn eich datblygiad ar y daith gyffrous hon.  

Gwn y byddwch yn gwneud pobl ifanc Cymru’n falch.