Iechyd meddwl ar frig rhestr o faterion pwysicaf pobl ifanc Cymru

Cyhoeddwyd 07/02/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munud

Dros y naw mis diwethaf, rydym ni wedi bod yn brysur yn gofyn i bobl ifanc ar draws Cymru pa faterion sy’n bwysig iddyn nhw.

Mae tîm Senedd Ieuenctid Cymru wedi cyfarfod â phobl ifanc mewn sioeau, Eisteddfodau, ysgolion, ac mewn sesiynau yn y Senedd, ac wedi casglu dros ddwy fil o ymatebion gan bobl ifanc.

Cafodd y materion hynny, yn ogystal â materion y 480 o bobl safodd fel ymgeiswyr yn yr etholiad, eu grwpio i 21 categori, ac ers mis Tachwedd rydym ni wedi bod yn gofyn i bobl ifanc i bleidleisio dros y tri phwnc hoffen nhw weld Senedd Ieuenctid Cymru yn canolbwyntio arnynt am y ddwy flynedd nesaf.

Cawsom ymateb gwych i’r holiadur, ac rydym ni’n falch iawn bod canlyniad yr holiadur yn seiliedig ar farn dros 3,000 o bobl ifanc ar draws Cymru.

IMG_0197.JPG

Cawsom ymateb oddi-wrth amrediad o oedrannau 11-18 oed, gyda’r ymateb mwyaf yn dod oddi-wrth bobl ifanc 14-15 oed. Clywsom hefyd oddi-wrth bobl ifanc o bob etholaeth yng Nghymru, ond daeth yr ymateb cryfaf oddi-wrth Preseli Penfro, Canol Caerdydd ac Alun a Glannau Dyfrdwy.

Dyma ganlyniadau’r bleidlais yn llawn:

Canlyniad (%) yn seiliedig ar farn y 1,164 o bobl ifanc bleidleisiodd yn yr holiadur terfynol.

Cymorth Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl ddaeth i’r brig yn yr holiadur gyda 36% o’r bobl ifanc yn ei nodi fel un o’u 3 phwnc pwysicaf. Y materion arall gafodd ganran uchel o’r bleidlais oedd Digartrefedd (27%), Bwlio a Seiberfwlio (21%), Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm (20%), Cyfleoedd Gwaith i Bobl Ifanc (19%), Brexit a’i Effaith ar Ddyfodol Cymru (18%) a Chydraddoldeb a Hawliau (18%).

Beth nesaf?

Mae 60 Aelod Senedd Ieuenctid Cymru yn cwrdd yng Nghaerdydd ddiwedd y mis, ac mi fyddan nhw yn penderfynu’n derfynol ar y tri phwnc yr hoffen nhw ganolbwyntio arnynt yn ystod eu dwy flynedd fel Aelodau.

Bydd canlyniadau’r holiadur hwn yn cael eu rhannu â’r Aelodau er mwyn iddyn nhw ystyried barn pobl ifanc Cymru cyn dod i benderfyniad.