Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd – Yr Argyfwng Hinsawdd

Cyhoeddwyd 17/05/2022   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 17/05/2022   |   Amser darllen munud

Bob blwyddyn mae mudiad yr Urdd yn cyhoeddi Neges Heddwch ac Ewyllys Da ar draws y byd. Y bwriad yw i ledaenu heddwch ac ewyllys da ar ffurf llais pobl ifanc. Fel un o’n sefydliadau Partner o ran y Senedd Ieuenctid, rydym yn falch o ddathlu a rhannu’r neges hon.

Mae’r neges eleni, ym mlwyddyn dathlu can mlynedd ers sefydlu mudiad ieuenctid yr Urdd, yn taro tant penodol gyda ni yn y Senedd Ieuenctid gan mai ffocws y Neges eleni yw Newid Hinsawdd. Dewiswyd Hinsawdd a’r Amgylchedd fel un o’n tri phrif bwnc i ganolbwyntio arnynt am ein cyfnod o ddwy flynedd fel aelodau o’r Senedd Ieuenctid (y ddau bwnc arall yw Addysg a’r Cwricwlwm Ysgol ac Ein Hiechyd Meddwl a’n llesiant). Teimlwn yn gryf fod Newid Hinsawdd yn bwnc hanfodol i fynd i’r afael ag ef er mwyn ein dyfodol a’n lles.

Mae’r neges yn ein hannog i wneud y pethau bychain i arbed ein planed ac i addo i weithredu, oherwydd efallai nad ni a fydd y rhai i ddioddef yr effeithiau hyn gyntaf.

Elena Ruddy yw cynrychiolydd yr Urdd fel aelod o’r Senedd Ieuenctid, ac mae hithau, fel y mae’r neges yn annog, yn defnyddio ei llais fel person ifanc i ddwyn Llywdoraeth Cymru i gyfrif ar ran plant a phobl ifanc Cymru. Gobaith Elena a'r Urdd yw y gall y neges gael ei lledaenu ar draws y byd.

Dyma'r neges: