Heb eich llais chi, ni fydd newid yn dod i'n bywydau.
Fy enw i yw Efa Jones ac rwy’n ddisgybl Chweched Dosbarth yn Ysgol Bro Myrddin. Fel unigolyn sy’n frwd am wleidyddiaeth mae datblygiad Senedd Ieuenctid - llwyfan i bobl ifanc fel chi a fi i leisio’n barn, yn gyffrous tu hwnt!
Er hynny, y newyddion anffodus i mi yw fy mod yn rhy hen i bleidleisio ac i sefyll ar gyfer y Senedd Ieuenctid gan fy mod yn troi’n ddeunaw ym mis Medi eleni. Am y tro cyntaf, mae cael pen-blwydd ym mis Medi yn anfantais i mi ac rydw i nawr yn cael fy ystyried yn hen! Ta beth, rhaid meddwl yn gadarnhaol ac felly hoffwn bwysleisio mor bwysig yw’r Senedd Ieuenctid a’ch annog chi i gofrestru i bleidleisio neu sefyll i fod yn aelod ohono.
Yn ystod wythnos o brofiad gwaith yn y Cynulliad, cefais gyfle i weld y gwaith sy’n digwydd y tu ôl i’r sefydliad newydd a’i bwysigrwydd i bobl fel chi a fi. Wrth helpu’r Adran Gyfathrebu roeddwn i’n gallu gweld eu bod nhw wir yn ystyried gofynion pobl ifanc ac eisiau rhoi cyfle i ni gymryd rhan yn nemocratiaeth ein gwlad.
Cefais gyfle i wrando ar bwyllgor deisebau'r Cynulliad, ac wrth wrando ar yr Aelodau yn trafod materion fel ‘addysgu Hanes Cymru mewn ysgolion’ daeth yn amlwg mai mater sy’n effeithio arnon ni yn uniongyrchol oedd yn cael ei drafod. Dychmygwch pe bydden ni’n gallu cael effaith ar y trafodaethau yma trwy leisio ein barn! Drwy ethol aelodau rhwng 11 ac 18 oed i’r Senedd Ieuenctid byddai modd gwneud hyn.
Y peth pwysicaf sydd angen ei wneud yw cofrestru i bleidleisio. Yna, mi allwch chi bleidleisio am y person gorau i gynrychioli’ch barn a’ch syniadau a sicrhau bod gennych lais yn y Senedd. Hefyd, bydd pleidleisio yn rhoi’r profiad i chi ac yn eich paratoi ar gyfer etholiadau’r Cynulliad (cyn bo hir, mae’n bosib y bydd gan bobl ifanc 16 ac 17 oed yr hawl i bleidleisio yn y rheini).
"BYDD PLEIDLEISIO YN RHOI'R PROFIAD I CHI AC YN EICH PARATOI AR GYFER ETHOLIADAU'R CYNULLIAD"
Os ydych chi’n teimlo bod gennych y sgiliau a’r rhinweddau i fod yn Aelod o’r Senedd Ieuenctid, beth am gynnig eich enw? Pe gallen i sefyll dyma rai o’r materion yr hoffwn i eu codi:
-
Yn gyntaf, fel rhywun sy’n byw yng nghefn gwlad Gorllewin Cymru, hoffwn wella’r drafnidiaeth gyhoeddus sy’n ein cysylltu ni â’r trefi cyfagos achos nid yw cael dau fws, un am 7:45am ac un arall am 18:00pm, yn gyfleus iawn i bobl ifanc sydd eisiau cyrraedd eu gweithgareddau allgyrsiol ac ati yn ystod y dydd heb orfod talu am betrol.
-
Yn ail, mi fyddwn yn ymgyrchu i gael gwared ar y trethi ar eitemau glanweithiol i ferched oherwydd mae cost padiau glanweithiol a thamponau da yn llawer rhy uchel i bobl ifanc a myfyrwyr.
-
Yn olaf, fel disgybl sy’n derbyn fy addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, mae adnoddau a llawlyfrau cyfrwng Cymraeg yn brin iawn. Daeth y llawlyfr newydd Mathemateg Lefel AS Cymraeg allan y diwrnod ar ôl fy arholiad!! Teimlaf fod hyn yn rhoi nifer helaeth o ddisgyblion ar draws Cymru dan anfantais ac felly byddwn wrth fy modd pe bai pobl ifanc yn gallu dod â hyn i sylw’r Cynulliad.
🚨 Mae modd gwneud cais nawr 🚨
Mae modd gwneud cais i fod yn aelod o Senedd Ieuenctid Cymru NAWR. Gwna gais nawr i enwebu dy hun i gael dy ethol ar gyfer #SeneddIeuenctidCymru.
📱👉https://t.co/CE1KzQXcAC pic.twitter.com/HG9lFYlBXD
Materion fel hyn sy’n bwysig i mi fel person ifanc a dwi’n siŵr bod gennych chithau faterion yr hoffech eu codi a lleisio barn arnyn nhw. Rwy’n annog pob un ohonoch i gymryd rhan yn yr ymgyrch newydd yma. Dyma’r sefydliad democrataidd cyntaf yn benodol ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru.