"Rwyf am sicrhau bod lleisiau a hawliau plant a phobl ifanc yn cael eu cydnabod a'u parchu yng Nghymru. "

Awdur Tilley Thomas - Guest Post   |   Cyhoeddwyd 19/10/2018   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munud

"Mae ein dyfodol yn ein dwylo ni"

Gwybodaeth amdanaf fi:

Fy enw i yw Chantelle (Tilley) Thomas ac rwy'n fyfyriwr Gwasanaethau Cyhoeddus yng Ngholeg Sir Gâr, ac yn gobeithio bod yn Heddwas neu’n Gyfreithiwr ryw ddiwrnod. Fel unigolyn sy’n frwdfrydig am wleidyddiaeth, hawliau plant ac addysg, mae dyfodiad Senedd Ieuenctid Cymru yn amser cyffrous i bob plentyn 11-18 mlwydd oed, gan gynnwys fi fy hun.

Tilly YP7.jpg

Pam mae cael Senedd Ieuenctid yn bwysig i mi?  

Fel person ifanc sy'n gadael gofal, credaf ei bod yn bwysig i bobl ifanc bod clust ar gael i glywed eu barn, ac iddynt deimlo’u bod wedi’u grymuso. Rwy'n teimlo nad yw lleisiau plant a phobl ifanc yn cael eu cymryd o ddifrif mewn gwleidyddiaeth bob amser – ac y bydd cael Senedd Ieuenctid yng Nghymru yn helpu i roi grym i bobl ifanc ac i hyrwyddo llais cenhedlaeth y dyfodol yng Nghymru. Bydd rhoi cyfle i bobl ifanc, gan gynnwys fi, i gael gwrandawiad, a chael cyfle i wneud gwahaniaeth o help i chwalu'r stigma y mae rhai plant a phobl ifanc yn ei brofi. 

Credaf y bydd pryderon a safbwyntiau pobl ifanc, gyda’i gilydd, fel Senedd Ieuenctid, yn cael eu parchu. Rwy'n gobeithio y bydd pobl ifanc yn manteisio ar y cyfle i gofrestru, ac yn pleidleisio.

Bydd cael Senedd Ieuenctid o gymorth mawr i sicrhau bod pobl ifanc yn cael eu cymryd o ddifrif, ac yn helpu o ran gyrfaoedd yn y dyfodol, drwy roi rhagor o gyfleoedd i bobl ifanc ddweud eu safbwyntiau ac i wneud newidiadau cadarnhaol. 

Tilly TP .jpg

Sally Holland, Comisiynydd Plant Cymru a minnau, mewn digwyddiad Cymru Ifanc, ble y siaradwyd am faterion sy'n bwysig i bobl ifanc


Yn fy marn i, o ran cyfleoedd yng Nghymru, mae cyfleoedd ar gael yn aml ar gyfer grŵp oedran llawer hŷn, ond mae'r Senedd Ieuenctid yn rhoi cyfle i leisiau ieuengach helpu i wneud gwahaniaeth, ac i bleidleisio yn 16 mlwydd oed. 

A minnau wedi cael sawl blwyddyn o brofiad o’r maes gofal, hoffwn weld pobl ifanc o bob cefndir yn cael y cyfle i helpu i newid pethau er gwell, gan gynnwys o ran y system ofal. 

O ganlyniad i gael Senedd Ieuenctid Cymru, gall rhagor o bobl fel fi gael y cyfle i ennill sgiliau, gwybodaeth a phrofiadau newydd, a bydd hynny yn ein helpu yn ein gyrfaoedd yn y dyfodol, boed hynny wrth ddod yn Heddwas, wrth redeg eich busnes eich hun neu beth bynnag!

Rwy'n credu bod hwn yn gam gwych i'r cyfeiriad cywir, i'r genhedlaeth iau yng Nghymru gael ei chynnwys ym myd gwleidyddiaeth a sylweddoli pa mor bwysig yw hi ein bod yn gwybod beth sy'n digwydd yn y wlad. Bydd hon yn Senedd y gallant fod yn rhan ohoni, i ddweud eu dweud.