Mae Aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru yn cynrychioli pobl ifanc ledled Cymru – maen nhw’n trafod sut i fynd i’r afael â’r materion sy’n bwysig i bobl fel ti. Mae ymgeiswyr ar hyd a lled Cymru wedi cyflwyno eu henwau i gynrychioli dy etholaeth (ardal), felly nawr mae'n bryd i ti benderfynu pwy sy’n cael dy bleidlais di.
Bydd yr Aelodau’n rhannu eu barn ar amrywiaeth o bynciau ac yn cyfarfod ag Aelodau o’r Senedd, busnesau ac ymchwilwyr i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed pan fydd penderfyniadau’n cael eu gwneud.
Os wyt ti’n 11-17 oed ac yn byw neu’n mynd i’r ysgol yng Nghymru, gallet gofrestru i bleidleisio heddiw drwy ddilyn pedwar cam hawdd.
Cam 1
Cer i wefan Senedd Ieuenctid Cymru neu cer yn syth i’n ffurflen gofrestru syml.
Cam 2
Rho wybod i ni o ble y byddi di’n pleidleisio. Gall hyn fod yr etholaeth rwyt ti’n mynd i’r ysgol iddi, neu’r etholaeth rwyt ti’n byw ynddi, os wyt ti’n byw yng Nghymru. Galli di weld dy etholaeth drwy ddefnyddio ein hofferyn ‘Dod o hyd i Aelod’.
Cam 3
Byddwn yn gofyn am dy enw llawn, cod post, dyddiad geni ac e-bost – felly gwna’n siŵr bod gennyt ti’r rhain cyn dechrau.
Cam 4
Byddi di’n cael e-bost yn gofyn i ti gadarnhau dy gyfeiriad e-bost. Gwna’n siŵr dy fod di’n edrych yn dy ffolder sbam os nad yw’r e-bost wedi cyrraedd – oherwydd heb gadarnhad, ni fyddwn yn gallu prosesu dy gofrestriad.
A dyna ni!
Cofia: mae’r cyfnod pleidleisio yn agor rhwng 4 a 25 Tachwedd, felly gwna’n siŵr bod dy bleidlais yn cyfrif!