Trydedd Gynhadledd ar Ddeg Senedd Ieuenctid y Gymanwlad

Cyhoeddwyd 30/10/2026   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/11/2026

Qahira Shah y tu allan i Senedd De Cymru Newydd. Mae hi'n sefyll ar y grisiau yn dal baner Cymru.

Adroddiad gan Qahira Shah

Cyflwyniad

Ym mis Gorffennaf 2026, croesawodd Senedd De Cymru Newydd 57 o arweinwyr ifanc rhwng 18 a 29 oed o bob cwr o'r Gymanwlad i 13eg Senedd Ieuenctid y Gymanwlad (CYP13). Rwyf mor ddiolchgar o fod wedi cynrychioli Cymru a'r Senedd yn Sydney ac wedi dod yn ôl i Gymru ar ôl dysgu cymaint am weithdrefnau a dadleuon seneddol drwy eistedd lle mae penderfynwyr yn eistedd. Rwyf hefyd wedi cael y cyfle unigryw i gwrdd â phobl o wahanol ddiwylliannau sydd â phrofiadau unigryw. Wrth glywed gan unigolion mor ysbrydoledig, rwyf bendant yn teimlo ymdeimlad dyfnach o gyfrifoldeb a phartneriaeth.

 Ond yn gyntaf, beth yw Senedd Ieuenctid y Gymanwlad? Mae pobl ifanc o bob cwr o'r Gymanwlad yn camu i rôl seneddwyr, yn trafod deddfwriaeth, cymryd rhan mewn amser hawl i holi a chyfarfodydd cawcws wrth archwilio thema ddewisol. Thema eleni oedd 'Democratiaeth yn Oes Deallusrwydd Artiffisial'. Rhoddodd y profiad hwn gyfle i gynrychiolwyr o bob cwr o'r byd ddatblygu eu gwybodaeth a'u sgiliau ar sut mae biliau'n cael eu cynnig, eu diwygio, eu trafod a'u pasio'n ddeddfwriaeth.

Wyth o aelodau Senedd Ieuenctid y Gymanwlad yn sefyll gyda'i gilydd y tu mewn i Senedd De Cymru Newydd o flaen tair baner. Mae Qahira Shah ar y chwith eithaf.

Diwrnod 1

Roedd diwrnod cyntaf y rhaglen yn gyfle i'r holl gynrychiolwyr ddod i adnabod ei gilydd yn well, ymgyfarwyddo â'r rhaglen a'r rheolau sefydlog, ac archwilio Senedd De Cymru Newydd. Cawson ni amser hefyd i ddod i adnabod aelodau ein plaid, llunio strategaethau a dethol aelodau ar gyfer rolau o fewn y blaid.

Qahira Shah y tu mewn i Senedd De Cymru Newydd.

Digwyddiad cyntaf y rhaglen oedd brecwast ac yna gyflwyniad yng Ngardd y Siaradwyr, sef ein cyfle cyntaf i gwrdd â phawb yn y cnawd. Cawsom ein croesawu gan Lywydd Cyngor Deddfwriaethol De Cymru Newydd, Ben Franklin, cyn ein cyflwyno i'r holl aelodau o staff a oedd yn ein cefnogi drwy gydol y rhaglen. Clywsom hefyd gan Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad a weithiodd y tu ôl i'r llenni i drefnu'r digwyddiad. Roedd yn gyffrous clywed gan Ewythr Brendan a oedd yn gynghorydd diwylliannol ac yn addysgwr i Senedd De Cymru Newydd a chwaraeodd yr yidiki (neu'r didgeridoo) a pherfformio Seremoni Ysmygu Cynfrodorol i nodi dechrau'r orymdaith.

 Yn dilyn hyn, cawsom daith o amgylch y senedd a dysgu llawer am ei hanes a'i chyfleusterau. Mae Senedd De Cymru Newydd yn ddwy siambr, sy'n golygu bod ganddi dŷ is (Cynulliad Deddfwriaethol) a thŷ uchaf (Cyngor Deddfwriaethol). Cynhaliwyd ein heisteddiadau ni yn siambr y Cyngor Deddfwriaethol sef y siambr â seddi coch. Yn ystod y daith, sylwais ar ymgorffori gwaith celf ac eitemau Cynfrodorol a oedd yn cael eu harddangos. Roedd yna hefyd nodweddion wedi’u neilltuo i’r menywod sy’n ffurfio’r senedd, a oedd yn ysbrydoledig iawn i’w gweld.

Ar ôl y daith, cawsom ein Mordaith yn Harbwr Sydney a oedd yn uchafbwynt! Gwelsom yr holl dirnodau nodedig sy'n ffurfio nenlinell Sydney, ac roedd y tywydd o'n plaid ni hefyd!

Qahira Shah yn sefyll ar gwch yn edrych dros harbwr Sydney. Mae amlinelliad enwog y Tŷ Opera i'w weld yn y cefndir.

Ar ôl y fordaith, cawsom sesiwn gynefino ar y rheolau sefydlog a'r elfennau o ffurfioldeb sy'n digwydd yn ystod eisteddiadau o’r senedd gyfan. Fe wnaethon ni ailymgynnull i'r siambr i gael ymarfer cyflym o beth fyddai'n digwydd pan mae’r gloch yn canu i bob aelod ddychwelyd i'r siambr a sut mae’r pleidleisio'n digwydd.

O'r diwedd, cafodd ein plaid ein cyfarfod cawcws cyntaf sydd i bob pwrpas yn gyfarfod plaid. Roedd 5 plaid: Plaid Cynnydd Democrataidd (DPP) (y Llywodraeth), Plaid Menter Rydd (yr Wrthblaid), a'r fainc groes: Plaid Datblygu Rhanbarthol, Plaid Rhyddhad a Rhyddid (Liberty and Freedom), a'r Mudiad Cyfiawnder Gwyrdd. Fy mhlaid i oedd y Blaid Cynnydd Democrataidd. Etholodd pob plaid arweinydd. Yn y Llywodraeth (DPP), gelwid yr arweinydd yn Premier (fel Prif Weinidog). Dewiswyd Dirprwy hefyd. Roedd gan bob plaid hefyd Weinidog / Gweinidog Cysgodol / Llefarydd dros Dechnoleg, Iechyd, Tai, Hinsawdd a'r Amgylchedd, ac Addysg. Dewiswyd Chwip a Dirprwy Chwip hefyd a'u cyfrifoldeb nhw oedd cyfrif pob 'Ie' a 'Na' yn dilyn pleidlais yn y senedd, i sicrhau bod aelod o'u plaid i drafod neu siarad ar wahanol adrannau o'r bil, a sicrhau bod pob aelod yn gwybod pa ffordd i bleidleisio.

 

Diwrnod 2

Roedd yr ail ddiwrnod yr un mor brysur. Dechreuon ni'r diwrnod gyda chyfarfod cawcws cyn eisteddiad cyntaf y tŷ cyfan. Yn y siambr, croesawon ni Lywodraethwr De Cymru Newydd, Margaret Beazley, i agor Senedd New Albion. Yn dilyn ei haraith, tyngodd pob aelod o'r blaid naill ai lw neu rhoddodd gyhoeddiad i addo teyrngarwch i bobl New Albion cyn bwrw ymlaen i lofnodi'r sgrôl a ddaeth â'r seremoni tyngu llw i ben.

Margaret Beazley, Llywodraethwr De Cymru Newydd, yn mynd i mewn i Siambr y Cyngor Deddfwriaethol.

Uchod: Margaret Beazley, Llywodraethwr De Cymru Newydd.

Nawr roedd yn amser troi at fusnes a chyflwyno 'Bil Deallusrwydd Artiffisial ac Uniondeb Democrataidd 2026' a dadl yr ail ddarlleniad. Ein tasg ni oedd cynnig y bil seneddol newydd ar gyfer gwlad ffuglennol New Albion, trafod ei effeithiolrwydd a'i addasrwydd, gwneud gwelliannau, a chyrraedd bil terfynol a oedd yn dderbyniol i fwyafrif y cynrychiolwyr fel y gellid ei basio. 

Aelodau o Senedd Ieuenctid y Gymanwlad yn sefyll yn Siambr y Cyngor Deddfwriaethol.

Ar ôl cinio, cawsom y cyfle anhygoel i glywed gan 4 Aelod Seneddol go iawn a gynigiodd eu barn ar sut mae deallusrwydd artiffisial yn cael ei ddefnyddio mewn gofal iechyd, etholiadau, penderfyniadau lles, ac ymateb i argyfyngau, a defnyddion nhw enghreifftiau bywyd go iawn o'u profiadau eu hunain. Yr hyn oedd wir yn fy niddori oedd y drafodaeth ar sut mae llywodraethau'n penderfynu pryd mae'n amser ymyrryd o ran cwmnïau deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol wrth gydbwyso anghenion a diogelwch eu hetholwyr. Rhywbeth nad oeddwn wedi'i ystyried o'r blaen oedd sut y gellir defnyddio ffugiadau dwfn deallusrwydd artiffisial yn ystod etholiadau i gamarwain yr etholwyr ac mae'n rhywbeth y mae llywodraethau'n ceisio’i ddatrys.

Cawsom ein trydydd cyfarfod cawcws cyn mynd i'r siambr ar gyfer dadl yr ail ddarlleniad sef y cyfle ffurfiol cyntaf i ddeddfwrfa drafod prif egwyddorion a diben cyffredinol y bil arfaethedig.

Qahira Shah yn sefyll i siarad yn Siambr y Cyngor Deddfwriaethol. Mae aelodau eraill o Senedd Ieuenctid y Gymanwlad eraill i'w gweld y tu ôl iddi.

Unwaith roedd hyn drosodd, cawsom yr areithiau gohirio. Nawr, mae'n debyg mai dyma fy hoff foment yn y rhaglen wrth i'r cynrychiolwyr daflu goleuni ar faterion sy'n bwysig iddyn nhw. Roedd hyn yn agoriad llygad anhygoel gan nad oeddwn, cyn hynny, wedi ystyried llawer o'r materion a godwyd, ac roedd eu clywed o lygad y ffynnon gan bobl yr effeithiwyd arnynt yn gwneud i mi fyfyrio'n fanylach. Roedd yr areithiau'n amrywio o sut mae newid hinsawdd yn effeithio ar genhedloedd Ynysoedd y Môr Tawel er gwaethaf y ffaith mai’r cenhedloedd hyn sy’n achosi'r effaith leiaf, trais ar sail rhywedd yn India, pobl ifanc NEET yn Singapore, effeithiau sŵnosis ar fodau dynol a bywyd gwyllt yn Awstralia, cynrychiolaeth Māori yn Seland Newydd - ac aiff y rhestr ymlaen. Dewisais wneud fy araith ar y Gymraeg a sut mae'n rhaid i ni atal anghyfiawnder tuag at gymunedau sydd wedi'u hymylu.

Cafodd eisteddiad y tŷ cyfan ei ohirio, a gadawon ni adeilad y senedd am dderbyniad anhygoel gan Lywodraethwr De Cymru Newydd yn Nhŷ'r Llywodraeth. Roedd hyn yn anhygoel! Cymerodd pob un ohonom ein tro i gyflwyno ein hunain i'r Llywodraethwr cyn mynd i'r ardd am noson o gerddoriaeth fyw a lluniaeth. Gwneuthum rai o fy atgofion mwyaf annwyl gyda chyd-gyfranogwyr yma - a hynny i gyd wrth edrych dros Harbwr Sydney yn y pellter.

Qahira Shah yn cwrdd â Margaret Beazley, Llywodraethwr De Cymru Newydd. Maen nhw'n ysgwyd llaw.

 Uchod: Qahira Shah yn cwrdd â Margaret Beazley, Llywodraethwr De Cymru Newydd.

Diwrnod 3

Ar drydydd diwrnod y rhaglen, fe ddechreuon ni gyda brecwast ac yna ein pedwerydd cyfarfod Cawcws. Ar y diwrnod hwn, cawsom Amser Hawl i Holi lle mae aelodau o bob plaid yn gofyn cwestiynau i'r llywodraeth ac yn craffu ar y bil. Roedden ni’n ddigon ffodus i gael Aelodau Seneddol yn ymuno â ni i’n mentora ac a’n dysgodd i sefyll yn gadarn, siarad ag argyhoeddiad a sut i ateb cwestiynau anodd. Ein mentor oedd y Gweinidog Tai, Rose Jackson sy'n enwog am fod yn wych am ateb cwestiynau. Roedd yr Amser Hawl i Holi yn llawn cyffro wrth i bawb yn y siambr gymryd rhan go-iawn, mewn cymeriad. Roedd yna lawer o “Ieee wiiir” a “Gwaaarth” a ychwanegodd at yr awyrgylch, gan ei wneud ychydig bach yn fwy realistig!

Qahira Shah in the Legislative Council Chamber.

Uchod: Qahira Shah yn eistedd wrth ddesg yn Siambr y Cyngor Deddfwriaethol. Mae'r Llefarydd i'w weld y tu ôl iddi.

Yn dilyn hyn, fe wnaethon ni gymryd rhan yn y gweithgaredd trochi diwylliannol. Roedd 3 lleoliad i ni gymryd rhan ynddynt: clywed hanes yr Yidiki (digeridoo), dylunio bwmerangs, a gwehyddu breichledau. Mae'r rhain i gyd yn rhannau annatod o hunaniaeth pobl y Cenhedloedd Cyntaf ac wedi'u gwneud yn gofroddion rhagorol.

Yna cawsom ymweliad gan Brif Weinidog go iawn De Cymru Newydd, Chris Minns, a atebodd gwestiynau a rhoi cyngor i ni. Ei gyngor mwyaf oedd gweithio ar ein sgiliau cyfathrebu.

Gyda'r nos, cawsom dderbyniad gwych arall yng Nghonswliaeth Prydain, ynghyd â lluniaeth a rhagor o gyfleoedd i rwydweithio â phobl nodedig. Roedd gan lawer ohonom welliannau i'w drafftio a'u cyflwyno i dîm y senedd erbyn 8.00 y bore canlynol, felly fe aethon ni ati i weithio cyn gynted ag y gallen ni!

Qahira Shah yn sefyll gydag aelodau eraill o Senedd Ieuenctid y Gymanwlad yn nerbyniad Conswliaeth Prydain.

Diwrnod 4

Roedd diwrnod olaf y rhaglen yn cynnwys dadl y Pwyllgor Cyfan a thrydydd darlleniad o’r bil. Clywsom yr holl welliannau arfaethedig a phleidleisio ynghylch a fyddent yn cael eu cynnwys yn y bil ai peidio. Roedd yn arbennig o ddiddorol gweld sut y cynigiodd gwahanol gynrychiolwyr welliannau yr oeddent wir yn gredu fyddai’n cynrychioli buddiannau eu hetholwyr ffuglennol yn New Albion.

Aelodau o Senedd Ieuenctid y Gymanwlad yn sefyll yn Siambr y Cyngor Deddfwriaethol.

Yna fe wnaethon ni gynnal pleidlais derfynol ar ôl y trydydd darlleniad ynghylch a oedden ni eisiau i'r bil gael ei basio - a phleidleisiodd y mwyafrif o blaid y bil (heb gynnwys y Blaid Fenter Rydd), felly cafodd y bil ei basio'n llwyddiannus! Roedd eisteddiad olaf y tŷ cyfan yn sicr yn un i'w gofio. Fe wnaethon ni gloi’r orymdaith seneddol trwy glywed areithiau llongyfarch gan sawl aelod i ddiolch i bawb a roddodd raglen mor drylwyr, drochol a diddorol at ei gilydd.

Aelodau o Senedd Ieuenctid y Gymanwlad yn sefyll yn Siambr y Cyngor Deddfwriaethol.

Fe wnaeth pawb fywiogi wedyn ar gyfer y digwyddiad olaf sef y cinio swyddogol a gynhaliwyd yn y senedd. Cafodd y fwydlen ei churadu gan ddefnyddio cynhwysion lleol fel perlysiau a dyfir ar doeau'r senedd. Roedd cyfle hyd yn oed i flasu cangarŵ. Cawsom anerchiad gan Andrew Bell AC sy'n Brif Ustus De Cymru Newydd, cyn tynnu'r lluniau olaf. Dyma lle y ffarwelion ni, gan fod gan lawer ohonom awyren i'w dal yn gynnar y bore canlynol.

 

Casgliad

Gallaf ddweud â’m llaw ar fy nghalon fy mod i wedi gwneud ffrindiau oes ar draws y byd. Yr hyn oedd fwyaf arbennig a thrawiadol oedd talent yr holl bobl ifanc yn y siambr. Daeth pawb â chymaint o syniadau, meddyliau ac egni i bob trafodaeth. Yr hyn efallai na fyddai pobl wedi'i weld oedd yr holl waith a wnaed yn ystod y nos yn ceisio cwblhau areithiau a gwelliannau, a chwblhau trafodaethau rhwng pleidiau cyn i'r haul godi - a hynny i gyd wrth frwydro yn erbyn y blinder teithio!

Saith aelod o Senedd Ieuenctid y Gymanwlad yn sefyll o flaen cefndir glas wrth arwydd ar gyfer Senedd Ieuenctid y Gymanwlad.

 Ni allaf ddiolch digon i'r tîm yn Senedd De Cymru Newydd a Chymdeithas Seneddol y Gymanwlad am eu holl ymdrechion i wneud i ni deimlo ein bod yn cael ein cefnogi, a’n croesawu a gwneud y profiad cyfan mor realistig a difyr â phosibl. Rwy'n credu y gallaf siarad dros yr holl gyfranogwyr wrth ddweud fod hwn yn brofiad gwirioneddol anhygoel a bythgofiadwy.

Diolch enfawr i staff Senedd Ieuenctid Cymru a staff y Senedd am eu help i fynd â fi i Sydney, ac am fy newis i gynrychioli Cymru - ni fyddai dim o hyn wedi bod yn bosibl heboch chi!

Ben Franklin, Llywydd Cyngor Deddfwriaethol De Cymru Newydd, yn sefyll gydag Aelodau o Senedd Ieuenctid y Gymanwlad o flaen wal oren. Mae Qahira Shah yn sefyll ar ei ochr chwith.

Uchod: Aelodau o Senedd Ieuenctid y Gymanwlad gyda Ben Franklin, Llywydd Cyngor Deddfwriaethol De Cymru Newydd, Awstralia.