Beth ddigwyddodd a phryd?
Ar 21 Chwefror, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf trydedd Senedd Ieuenctid Cymru.
Ar y dydd Gwener, cawsom groeso cynnes iawn i’r Senedd, gyda thaith o amgylch y Siambr (lle caiff dadleuon eu cynnal yn y Senedd.) Yn dilyn hynny, aethom ni ar daith gyffrous dros y ffordd i’r Urdd i wneud gweithgareddau torri’r garw i ddod i adnabod ein gilydd cyn yr areithiau ar y dydd Sadwrn.
Ddydd Sadwrn, cynhaliwyd Cyfarfod Llawn cyntaf trydedd Senedd Ieuenctid Cymru. Roedd y sesiwn yn wirioneddol ysbrydoledig, ac allwn ni ddim aros i balu ymlaen â’r gwaith dros y ddwy flynedd nesaf. Ond nid dyna oedd diwedd y dydd! Ar ôl i'r Cyfarfod Llawn ddod i ben, aethom ni nôl i wneud mwy o weithgareddau a fydd, gobeithio, yn meithrin cyfeillgarwch gwych, yn ogystal â pherthnasoedd gwaith rhwng yr Aelodau.
Y Cyfarfod Llawn cyntaf
Y Cyfarfod Llawn cyntaf oedd lle penderfynodd Aelodau’r Senedd Ieuenctid ar y tri phrif bwnc i ganolbwyntio arnynt drwy gydol y tymor dwy flynedd.
Er gwaethaf yr achlysur mawreddog a’r gynulleidfa fawr, fe wnaeth holl Aelodau’r Senedd Ieuenctid roi areithiau angerddol yn y Siambr, lle cawsom gyfle i rannu ein meddyliau a’n barn am y pynciau sydd o ddiddordeb i ni. Yna cyflwynwyd pob pwnc fel pynciau posibl i Bwyllgorau’r Senedd Ieuenctid eu trafod.
Unwaith i’r areithiau ddod i ben, cafwyd y bleidlais i benderfynu ar y tri phwnc i’r pwyllgorau.
Cyhoeddi’r Pwyllgorau
Ar ôl i’r holl bleidleisiau gael eu cyfrif, cyhoeddwyd y bydd trydedd Senedd Ieuenctid Cymru yn canolbwyntio ar y tri mater a ganlyn:
- Costau byw a thlodi
- Trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol
- Trosedd a diogelwch
Mae’r pynciau hyn yn arbennig o gyffrous oherwydd ein bod wedi dewis mynd i gyfeiriad gwahanol i’r Senedd Ieuenctid flaenorol, ac allwn ni aros i balu ymlaen â’r gwaith.
Mae eich llais chi o bwys
Mae Senedd Ieuenctid Cymru a’n gwaith yn enghraifft glir iawn o bwysigrwydd lleisiau pobl ifanc yng Nghymru. Gallwn ni gynnig safbwyntiau a syniadau newydd, ac rydym eisiau cynrychioli meddyliau a safbwyntiau pobl ifanc ledled y wlad. I gael rhagor o wybodaeth am bwy ydym ni a beth rydym yn ei wneud, mae modd tanysgrifio i'n cylchlythyr.
Beth am weld beth oedd gennym ni i'w ddweud? Gwyliwch y Cyfarfod Llawn.