Fis Gorffennaf, cynhaliwyd digwyddiadau cyntaf erioed Senedd Ieuenctid Cymru i roi’r cyfle i bobl ifanc ar draws y wlad gymryd rhan yn ymgynghoriad Sgiliau Bywyd yn y Cwricwlwm.
Cynhaliwyd dau ddigwyddiad - un yn Wrecsam, ac un yn Abertawe. Pwrpas y diwrnod oedd rhoi’r cyfle i bobl ifanc leisio eu barn ar y cwricwlwm, a chyfarfod â sefydliadau sy’n gwneud gwaith ym maes sgiliau bywyd.
GALERI: ABERTAWE
-
Trafodaeth banel gyda Sian Gwenllian AC, Rhys ac Evan. Gwych oedd trafod sgiliau bywyd yn y cwricwlwm gyda’r panel a chael eu syniadau wrth i ni symud ymlaen, yn ogystal â sylwadau’r bobl ifanc yn y gynulleidfa.
-
Grwpiau trafod gyda phobl ifanc a Mark Isherwood AC. Diddorol iawn oedd clywed syniadau gwych y bobl ifanc am sut i ddatblygu’r cwricwlwm, yn ogystal â chlywed eu profiadau o ddiffyd addysg ar sgiliau bywyd yn y gorffennol.
-
Crwydro’r stondinau i ddysgu am waith sefydliadau arbenigol, yn enwedig clywed gwaith Kelly Harris gydag elusen Brook Cymru a chael cyfle i ymarfer fy sgiliau CPR gyda Chroes Goch Cymru. Braf oedd gweld y bobl ifanc yn mwynhau’r profiad hefyd.
-
Treulio amser mewn grŵp ffocws yn y prynhawn gydag Ysgol Prestatyn ac Ysgol Glan Clwyd. Cefais gyfle i sgwrsio â phobl ifanc sy’n byw yn fy etholaeth am sgiliau bywyd, yn ogystal â materion lleol sy’n eu heffeithio.
-
Cael cyfle ar ddiwedd y dydd i sgwrsio gyda gweddill Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru am ein prif faterion a’n llwyddiannau hyd yn hyn. Cefais gyfle i rannu hyn gyda Llyr Gruffydd AC a Janet Finch Saunders AC.
GALERI : WRECSAM
Rhwng y digwyddiadau rhanbarthol a sesiynau gyda phobl ifanc dros yr haf, rydym wedi clywed oddi-wrth bobl ifanc ac athrawon mewn 25 grŵp ffocws gwahanol. Gallwch ddarllen crynodeb o holl sylwadau’r grwpiau ffocws drwy wasgu’r botwm isod.