Wythnos Gwaith Ieuenctid 2019

Cyhoeddwyd 28/06/2019   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 05/05/2021   |   Amser darllen munudau

Roedd hi’n wythnos gwaith ieuenctid yr wythnos hon, ac mae Charley, un o Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru wedi bod yn rhan o’r maes ers blynyddoedd. Dyma ei stori hi.

Ers oedran ifanc, mae gwaith ieuenctid wedi bod yn bwysig iawn i mi. Rwyf wedi bod yn rhan o wasanaethau ieuenctid lleol ers fy mod yn 10 mlwydd oed ac o fynychu’r clwb rwyf wedi cael y cyfle i wirfoddoli.

Mae’r profiad yma wedi bod yn fuddiol iawn ar gyfer fy nyfodol. I ddathlu wythnos gwaith ieuenctid, byddaf yn cymryd rhan mewn nifer o weithgareddau eang. 

Credaf yn gryf fod wythnos gwaith ieuenctid yn gyfle arbennig i ddathlu'r gwaith anhygoel sydd yn cael ei wneud dros Gymru a ledled y byd. Gall gwaith ieuenctid gynnig cyfleoedd amhrisiadwy am bobl ifanc, a gall gynnig cyfleoedd na fyddai ar gael yn yr ysgol nac yn y cartref.

IMG_20190617_133127.jpg

Yn ystod wythnos gwaith ieuenctid, byddwn yn gwirfoddoli efo fy ngwasanaeth ieuenctid lleol mewn diwrnod hwyl a sbri efo’r bobl ifanc. Y llynedd roedd y digwyddiad yma yn llwyddiannus’ rhoddais gymorth i ddisgyblion blwyddyn 6 i feithrin perthnasoedd/cyfeillgarwch i’w paratoi nhw ar gyfer yr ysgol uwchradd.

Cafodd y disgyblion y cyfle i gael hwyl trwy ymarferion oedd yn hanfodol i bobl ifanc ac a bwysleisiai ein hawliau o dan yr UNCRC.

 Dros y blynyddoedd rydw i wedi cyfranogi o weithgareddau megis diwrnod chwaraeon, gwersi coginio, gweithdai iechyd meddwl mewn ‘Mindfulness’, a’r profiad unwaith-mewn-oes o fod yn Gadeirydd cyngor ieuenctid. Mae’r holl gyfleoedd yma wedi helpu fi i dyfu fel person a helpu fi i fagu sgiliau hyder. Ni fyddwn i lle ydw i heddiw heb y gwasanaethau yma.

Mae'n #WythnosGwaithIeuenctid - cyfle i ddathlu cyfraniad gweithwyr ieuenctid i fywydau pobl ifanc.
Dyma Charley i sôn am sut mae gwaith ieuenctid wedi ei siapio hi fel person a'i hysbrydoli i fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru. 🌟#YouthWorkWeek #YouthWorkWales #Ysbrydoli pic.twitter.com/I3lwtijFFl

— Senedd Ieuenctid Cymru (@SeneddIeuenctid) June 24, 2019

Credaf ei bod yn hollbwysig inni ddathlu gwaith y bobl ifanc a’r gweithwyr ieuenctid ar y cyd. Hebddyn nhw, ni fyddai gan nifer o bobl ifanc sgiliau hanfodol, angenrheidiol at y dyfodol.

Mae canolfannau ieuenctid yn cynnig rhywle saff i bobl ifanc fynd i wneud gweithgareddau sydd yn hwyl ac sy’n cynnig seibiant o rai o’r agweddau caled ar fywyd.

Felly, yr wythnos gwaith ieuenctid hon, rwy’n awgrymu eich bod yn ymchwilio i’r gwasanaethau sydd yn ar gael yn eich ardal chi a sut rydych yn gallu cymryd rhan.

Mae ‘gwaith ieuenctid’ i mi yn beth hwylus, ac mae yna nifer o gyfleoedd unigryw i bawb. Beth yw gwaith ieuenctid i chi? Wythnos gwaith ieuenctid hapus i bawb!