Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru

Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru

Sefydliadau partner yn cael eu cyhoeddi ar gyfer Senedd Ieuenctid nesaf Cymru

Cyhoeddwyd 14/08/2024   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 14/08/2024   |   Amser darllen munudau

Mae'r rhestr derfynol o 20 o sefydliadau partner wedi'i chyhoeddi, cyn trydydd tymor Senedd Ieuenctid Cymru.

Bydd pob sefydliad partner yn cynnal etholiad i ddewis y person ifanc 11 – 17 oed a fydd yn eu cynrychioli dros y tymor nesaf o ddwy flynedd.

Nhw fydd yn ffurfio'r senedd 60 aelod, ochr yn ochr â 40 o aelodau sy'n cael eu hethol o bob un o etholaethau Cymru.

Mae enwebiadau ar gyfer aelodau etholiadol ar agor tan 30 Medi 2024.

Mae Aelodau Senedd Ieuenctid Cymru yn cael eu hethol i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu clywed mewn penderfyniadau sy'n effeithio ar eu dyfodol.

Mae’r system sefydliadau partner wedi bod ar waith ers dechrau’r Senedd Ieuenctid – gan helpu i sicrhau senedd amrywiol, gyda chynrychiolaeth gan bobl sy’n agored i niwed, neu’r rheini o gefndiroedd ymylol.

Mae sefydliadau partner y tymor hwn yn cynnwys y rheini sy'n gweithio gyda phobl ifanc ddigartref, plant ag anableddau a phobl ifanc LGBTQ+.

Sgoriwyd ceisiadau i ddod yn sefydliad partner yn seiliedig ar nifer o ffactorau, a'u dewis i gynrychioli ystod o achosion ac ardaloedd daearyddol.

Dyma’r rhestr lawn o sefydliadau partner ar gyfer trydydd tymor Senedd Ieuenctid Cymru:

GISDA 

Llamau  

Anabledd Dysgu Cymru 

Tŷ Gobaith a Tŷ Hafan (cais ar y cyd) 

Talking Hands

Tîm Cymorth Ieuenctid Ethnig (EYST) 

Tros Gynnal Plant Cymru

Race Council Cymru

Digon (grŵp ieuenctid LGBTQ+ yn Ysgol Gyfun Plasmawr)

Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru

Voices from Care Cymru

NYAS 

Urdd Gobaith Cymru 

Clwb Ffermwyr Ifanc Cymru  

GirlGuiding Cymru 

Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS), Rhondda Cynon Taf 

Cyngor Abertawe  

Gwasanaeth Ieuenctid Conwy 

Ymddiriedolaeth Elusennol Stephens a George

Gweithredu dros Blant (Ysgol Headlands, Penarth)