Bydd adeiladau'r Senedd a'r Pierhead ar gau i'r cyhoedd ddydd Iau 15 Hydref. Mae rhagor o wybodaeth am gau’r adeiladau ar gael yma.
Senedd Ieuenctid Cymru ymhlith y can gorau sy’n sicrhau newid, ar restr 2025 y Big Issue
Cyhoeddwyd 30/01/2025   |   Diweddarwyd Ddiwethaf 30/01/2025
Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi curo cystadleuwyr ledled y DU i gyrraedd rhestr y Big Issue o’r can gorau sy’n sicrhau newid, ar gyfer 2025!
Mae rhestr ‘Changemakers’ yn ddathliad blynyddol o'r bobl a'r sefydliadau sydd wedi canolbwyntio nid arnynt eu hunain, ond ar weddill cymdeithas.
Gofynnwyd i ddarllenwyr y Big Issue enwebu’r bobl neu’r grwpiau sy’n gwneud bywyd yn well ac yn fwy disglair. Enwebwyd Senedd Ieuenctid Cymru gan ddarllenydd, ac fe gyrhaeddodd y can olaf.
Disgrifiodd y Big Issue y rhai a gyrhaeddodd y 100 uchaf fel bod ymhlith y gorau ohonom.
Mae’r acolâd yn dyst i waith ysbrydoledig y bobl ifanc sydd wedi peri bod Senedd Ieuenctid Cymru yn llwyddiant.