Roedd Amir
yn Aelod o'r ail Senedd Ieuenctid Cymru o 2021 i 2024.
Dyma ei
ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer ail Senedd Ieuenctid
Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
- Mynediad at addysg
- Cost uchel teithio ar fysiau
- Atal Clefyd Alzheimer
Datganiad ymgeisydd: Fy enw i yw Amir Alenezi, dwi'n dod
o wlad sy’n bell iawn i ffwrdd o’r enw Kuwait. Roeddwn i’n byw yno gyda fy nheulu,
fy mam, fy nhad, fy chwaer a fy mrawd. Nid oedd y sefyllfa yn Kuwait yn dda i
ni felly gwnaethom lwyddo i ddod i Gymru.
Rwyf bellaf yn byw yn Wrecsam, dwi wedi bod yno ers
blwyddyn ac rwy’n hoff iawn o fy mywyd newydd. Rwy'n hoffi fy ysgol, yn enwedig
Saesneg, ac rwy'n caru pêl-droed.
Mae gen i ddiddordeb mawr i ddysgu mwy am y Senedd
Ieuenctid, cwrdd â phobl newydd, a dysgu popeth am wleidyddiaeth Cymru a'r DU.
Rwy'n gobeithio y gallaf fod yn llais defnyddiol a helpu
pobl eraill fel fi i ddeall sut mae pethau'n gweithio gan fy mod i’n ffoadur
yma. Gobeithiaf y gallaf gyfrannu fy mhrofiad a'm syniadau i helpu yn y Senedd
Ieuenctid a gwrando ar bobl ifanc a chynrychioli eu barn.
Y pethau rwy'n poeni amdanynt yw:
- Mynediad at addysg i bobl ifanc
- Cost uchel tocynnau bws i bobl ifanc ar incwm isel
- Atal ac ymchwilio i afiechydon fel Clefyd Alzheimer
sy'n effeithio ar nifer sylweddol ohonom wrth i ni fynd yn hŷn.