Datganiad
Ymgeisydd: Dw i eisiau dod yn aelod gwerthfawr o Senedd Ieuenctid Cymru ac i
ddangos beth fydden i’n ei gyflawni fel aelod. Dw i wedi bod yn gynrychiolydd
Cymru yn y gorffennol ar gyfer Tîm Siâp Ieuenctid yn y 25ain Jambori Sgowtiaid
y Byd yn Ne Corea. Rhoddodd hyn gyfle i mi ddeall sut i gynrychioli Cymru ar
lwyfan ryngwladol. Fel rhywun ag ASD cymedrol, bydden i’n gweithio ar ddod yn
llais i blant niwroamrywiol yn y system addysg ac yn gweithio tuag at gynnig y
cymorth cywir ar yr adeg cywir iddyn nhw, er mwyn iddynt allu cyflawni eu
potensial. Dw i hefyd eisiau codi ymwybyddiaeth o’r argyfwng iechyd meddwl
cynyddol ymysg ein pobl ifanc, a sut gall cymunedau weithio i wneud yn siŵr bod ein hamgylchedd yn fan diogel i
blant sy’n
chwilio am gymorth. Fel rhywun sy’n aelod actif o’r
Sgowtiaid, dw i hefyd yn credu’n gryf ei bod hi’n
bwysig hyrwyddo sefydliadau adeiladu ieuenctid yng Nghymru a gwneud yn siŵr eu bod nhw’n chwarae rhan actif yn natblygiad pobl
ifanc.