Roedd Betsan yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
addysg am y
gymuned lgbtq+
gostwng yr oed pleidleisio
diogelwch beics
ar y ffyrdd
Rwy'n sefyll gan mod i'n credu bod hi'n bwysig bod ganddom ni fel pobl
ifanc lais, buaswn yn fodlon dweud fy nweud ac codi llais dros rheini sydd
falle rhy swil i neud dros ei hunain. Rwyn berson sy'n gwenu yn aml ac felly
hoffwn feddwl bod hynny yn gwneud fi'n hawdd i siarad iddi.
Rwyn hapus i siarad o flaen pobl ac dal fy nhir os oes angen. Petawn yn
cael fy ethol buaswn yn sefyll fyny drost pobl ifanc yr ardal i sicrhau y
dyfodol gorau i ni fel plant.
I wneud yn siwr eich bod yn cael ei cynrychioli mewn ffordd teg mi fyswn yn
gosod ffyrf dros cyfryngau cymdeithasol penodol ar gyfer y rol fel bod pawb yn
gallu cael ei dweud ac mi fyddwn yn ceisio cyflawni yr hyn i'r gorau o fy
ngallu.
Byddai pleidlais i mi yn bleidlais dros bawb, yn ffordd o gael ein lleisiau
wedi ei glywed yn ffordd o gael tegwch i ni fel pobl ifanc Cymru.