Roedd Caitlin yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
Cyfle cyfartal
Tlodi a
digartrefedd
Byw mewn gofal
- nid yw'n gorffennol yn pennu ein dyfodol
Rwy'n gwybod pa gefnogaeth a systemau sydd yno trwy brofiad. Mae hyn wedi
effeithio ar fy mywyd ac wedi gwneud i mi weld bywyd fel a ag y mae go iawn.
Rwy'n angerddol ynglŷn
â gwneud pethau'n iawn
nid yn unig i mi fy hun ond i eraill o fy nghwmpas.
Hoffwn weld dyfodol i mi yn y 5 mlynedd nesaf ond y realiti i mi a llawer o
bobl eraill yw ein bod yn gweld ein dyfodol yn nhermau ein pryd nesaf, gwely
cynnes a tho uwch ein pen, neu rydym yn teimlo nad oes gennym ddyfodol o gwbl.
Rwy'n berson unigol, ond nid wyf ar fy mhen ei hun. Mae pobl sy'n sefyll o
fy amgylch yn rhannu llawer o'r un materion â fi, ond nid ydym yn cael ein
clywed. Nid siarad drosof fi fy hun yn unig ydw i, ond dros lawer o bobl eraill
nad yw eu lleisiau wedi'u clywed eto.
Ni allwch newid ein gorffennol ond gallwch lunio ein dyfodol!