Rwy'n gwybod pa
gefnogaeth a systemau sydd yno trwy brofiad. Mae hyn wedi effeithio ar fy mywyd
ac wedi gwneud i mi weld bywyd fel a ag y mae go iawn. Rwy'n angerddol ynglŷn â gwneud pethau'n iawn nid yn unig i mi fy hun ond i eraill o fy nghwmpas.
Hoffwn weld
dyfodol i mi yn y 5 mlynedd nesaf ond y realiti i mi a llawer o bobl eraill yw
ein bod yn gweld ein dyfodol yn nhermau ein pryd nesaf, gwely cynnes a tho uwch
ein pen, neu rydym yn teimlo nad oes gennym ddyfodol o gwbl.
Rwy'n berson
unigol, ond nid wyf ar fy mhen ei hun. Mae pobl sy'n sefyll o fy amgylch yn
rhannu llawer o'r un materion â fi, ond nid ydym yn cael ein clywed. Nid siarad
drosof fi fy hun yn unig ydw i, ond dros lawer o bobl eraill nad yw eu lleisiau
wedi'u clywed eto.
Ni allwch newid
ein gorffennol ond gallwch lunio ein dyfodol!