Datganiad
Ymgeisydd: Helo, fy enw i yw Carys Simons, rydw i’n 16 oed ac rydw i'n fyfyriwr
chweched dosbarth yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail. Rydw i’n cynrychioli YEPS yn
Senedd Ieuenctid Cymru.
Buawn yn
disgrifio fy hun fel person creadigol iawn ac agored. Rhai o fy niddordebau yw gwrando ar
gerddoriaeth, creu celf a gwylio k-drama.
Rydw i'n edrych ymlaen at y cyfleoedd newydd y bydd Senedd Ieuenctid
Cymru yn eu cynnig i mi. Flwyddyn yn ôl,
fuaswn i byth wedi meddwl y byddwn i'n sefyll i fyny dros y materion sy'n codi,
ond rydw i wedi dysgu na wnewch chi fyth lwyddo os na wnewch chi’r ymdrech.
Rydw i'n edrych
ymlaen at gwrdd â phobl newydd, cymryd rhan mewn profiadau newydd yn Senedd
Ieuenctid Cymru a sicrhau newid i bobl ifanc yng Nghymru.