Roedd Carys yn Aelod o trydydd Senedd Ieuenctid Cymru o Hydref 2024 i Gorffenaf
2026, gan gynrychioli Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS),
Rhondda Cynon Taf.
Dyma ei ddatganiad fel ymgeisydd yn etholiad 2024:
Fy mhrif ystyriaethau:
- Gwell
cymorth a dealltwriaeth iechyd meddwl a llesiant i bawb
- Cadw ein
Cymunedau'n Daclus
- Gwell
Diogelwch Cymunedol
Helo, fy enw i yw Carys Simons, rydw i’n 16 oed ac rydw i'n fyfyriwr
chweched dosbarth yn Ysgol Gymunedol Tonyrefail. Rydw i’n cynrychioli YEPS yn
Senedd Ieuenctid Cymru.
Buawn yn disgrifio fy hun fel person creadigol iawn ac agored. Rhai o fy niddordebau yw gwrando ar
gerddoriaeth, creu celf a gwylio k-drama.
Rydw i'n edrych ymlaen at y cyfleoedd newydd y bydd Senedd Ieuenctid
Cymru yn eu cynnig i mi. Flwyddyn yn ôl,
fuaswn i byth wedi meddwl y byddwn i'n sefyll i fyny dros y materion sy'n codi,
ond rydw i wedi dysgu na wnewch chi fyth lwyddo os na wnewch chi’r ymdrech.
Rydw i'n edrych ymlaen at gwrdd â phobl newydd, cymryd rhan mewn profiadau
newydd yn Senedd Ieuenctid Cymru a sicrhau newid i bobl ifanc yng Nghymru.