Roedd Charley yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.
Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd
Ieuenctid gyntaf Cymru:
Fy mhrif
ystyriaethau:
Cynyddu tâl
pobl 16-18 oed
Mwy o gymorth
mewn ysgolion ar gyfer LHDT
Gwastraff
plastig a llygredd
Rydw i am fod yn aelod o senedd ieuenctid Cymru oherwydd rydw i’n
ymroddedig ac yn benderfynol o gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc yn
fy ardal i. Rydw i’n ystyriol ac yn dda am wrando, felly rydw i'n teimlo fel pe
bawn i'n gallu sicrhau bod pobl ifanc yn fy ardal yn cael cyfle i greu newid.
Byddwn i’n barod i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau eraill i
sicrhau fy mod i’n rhyngweithio gydag ystod o bobl ifanc.
Dwi’n garedig, yn ystyriol, yn hyderus ac yn angerddol ynglŷn â chael effaith ar fy ardal leol a helpu pobl ifanc i sicrhau eu bod yn cael
dweud eu dweud am faterion sy'n eu heffeithio nhw a'u dyfodol. Rydw i'n hyderus
bod gen i sgiliau gwrando da a rydw i’n dda wrth ddehongli ystod eang o farnau.
Mae gen i brofiad ar gyngor fy ysgol ac yn rhan o'r fforwm ieuenctid lleol a
rhanbarthol.
Rydw i'n credu y byddwn yn gwneud aelod da o senedd ieuenctid Cymru ac yn
barod i roi amser ac ymdrech er mwyn helpu eraill ac yn bwysig i helpu i drafod
materion sy'n wynebu pobl ifanc.