Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Charley Oliver-Holland

Charley Oliver-Holland

Gorllewin Casnewydd

Roedd Evan yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Charley Oliver-Holland

Bywgraffiad

Roedd Charley yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei ddatganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Cynyddu tâl pobl 16-18 oed
  • Mwy o gymorth mewn ysgolion ar gyfer LHDT
  • Gwastraff plastig a llygredd

Rydw i am fod yn aelod o senedd ieuenctid Cymru oherwydd rydw i’n ymroddedig ac yn benderfynol o gael effaith gadarnhaol ar fywydau pobl ifanc yn fy ardal i. Rydw i’n ystyriol ac yn dda am wrando, felly rydw i'n teimlo fel pe bawn i'n gallu sicrhau bod pobl ifanc yn fy ardal yn cael cyfle i greu newid. Byddwn i’n barod i ddefnyddio’r cyfryngau cymdeithasol a llwyfannau eraill i sicrhau fy mod i’n rhyngweithio gydag ystod o bobl ifanc.

Dwi’n garedig, yn ystyriol, yn hyderus ac yn angerddol ynglŷn â chael effaith ar fy ardal leol a helpu pobl ifanc i sicrhau eu bod yn cael dweud eu dweud am faterion sy'n eu heffeithio nhw a'u dyfodol. Rydw i'n hyderus bod gen i sgiliau gwrando da a rydw i’n dda wrth ddehongli ystod eang o farnau. Mae gen i brofiad ar gyngor fy ysgol ac yn rhan o'r fforwm ieuenctid lleol a rhanbarthol.

Rydw i'n credu y byddwn yn gwneud aelod da o senedd ieuenctid Cymru ac yn barod i roi amser ac ymdrech er mwyn helpu eraill ac yn bwysig i helpu i drafod materion sy'n wynebu pobl ifanc.

Tymhorau yn y swydd

  1. 05/12/2018 - 05/03/2021

Digwyddiadau calendr: Charley Oliver-Holland