Datganiad
Ymgeisydd: Drwy dyfu i fyny mewn ardal difreintiedig, rydw i’n gweld effeithiau
penderfyniadau’r llywodraeth ar y bobl dlotaf, y rhai heb lais. Dw i eisiau
newid hynny drwy leisio fy materion allweddol i a chi. Dw i eisiau bod yn llais
dros rannau tlotaf Cymru (y Cymoedd) a gweithredu newid positif i bob un
ohonom.
Dylech
bleidleisio drosof fi oherwydd byddaf yn gwneud yn siŵr bod llais pawb yn cael ei glywed, o bob
cred a safbwynt, nid yn unig fy un i, oherwydd rydw i’n siarad dros ieuenctid Blaenau Gwent.
Rydw i hefyd wedi
bod yn barod i leisio barn ac yn wleidyddol drwy fy mywyd, ac yn ddig o weld yr
amddifadedd o’n cwmpas fan hyn. Dw i’n gwybod beth dw i’n ei wneud. Mae gen i
brofiad mewn clybiau dadlau, wedi gwneud yn dda iawn mewn areithiau ysgol, mae
pobl yn gwybod ei bod hi’n hawdd dod ataf fi ac wedi cwrdd â phob math o bobl
yn fy ngwaith mewn traciau rasio a chaffis, felly dw i’n gwybod sut i wrando
arnoch chi.
Bydden i’n
cynrychioli’r bobl ifanc o Dredegar i Lanhiledd, y ffordd rydych chi eisiau
cael eich cynrychioli, yn lleisio ein credoau a’n meddyliau i weithredu newid
go iawn. Pleidleisiwch Chase.
Cael eich Clywed.
Gweld y Newid.