Datganiad ymgeisydd: Rwyf am fod yn Aelod o Senedd
Ieuenctid Cymru gan fod gen i ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth ac rydw i
eisiau codi ymwybyddiaeth am bobl sy’n gwisgo cymhorthion clyw. Er mwyn sicrhau
bod lleisiau pobl yn cael eu clywed, byddaf yn gweithio gyda'r NDCS i gasglu a
chynrychioli barn plant â nam ar eu clyw yng Nghymru. Dylai pobl bleidleisio
drosof i oherwydd rwyf am sicrhau bod mwy o bobl yn cael yr un cymorth ag sydd
gen i ar gyfer problemau clyw. Rwy’n aelod o gyngor blwyddyn fy ysgol ac rwy'n
hyderus wrth gyfleu syniadau a barn pobl eraill. Mae bod yn rhan o gymuned
gynhwysol yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi ac yn rhywbeth y credaf y dylem i
gyd fod yn anelu ato, y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol. Rwy'n angerddol am yr
amgylchedd a ffyrdd i achub ein planed.