Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Daniel Downton

Daniel Downton

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Gymdeithas Genedlaethol Plant Byddar

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Codi ymwybyddiaeth am broblemau o ran clyw
  • Gwella adnoddau ar gyfer pobl sydd â nam ar eu clyw
  • Lleihau plastig untro

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Daniel Downton

Bywgraffiad

Datganiad ymgeisydd: Rwyf am fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru gan fod gen i ddiddordeb mewn gwneud gwahaniaeth ac rydw i eisiau codi ymwybyddiaeth am bobl sy’n gwisgo cymhorthion clyw. Er mwyn sicrhau bod lleisiau pobl yn cael eu clywed, byddaf yn gweithio gyda'r NDCS i gasglu a chynrychioli barn plant â nam ar eu clyw yng Nghymru. Dylai pobl bleidleisio drosof i oherwydd rwyf am sicrhau bod mwy o bobl yn cael yr un cymorth ag sydd gen i ar gyfer problemau clyw. Rwy’n aelod o gyngor blwyddyn fy ysgol ac rwy'n hyderus wrth gyfleu syniadau a barn pobl eraill. Mae bod yn rhan o gymuned gynhwysol yn rhywbeth sy'n bwysig iawn i mi ac yn rhywbeth y credaf y dylem i gyd fod yn anelu ato, y tu mewn a’r tu allan i’r ysgol. Rwy'n angerddol am yr amgylchedd a ffyrdd i achub ein planed.

Aelodaeth

Tymhorau yn y swydd

  1. 01/12/2021 -

Digwyddiadau calendr: Daniel Downton