Datganiad
Ymgeisydd: Fy enw i yw Devlin Stanney ac rwy'n 15 oed. Rwy'n astudio yn Ysgol
Dyffryn Aman ac yn sefyll fel ymgeisydd ar gyfer etholiad y senedd ieuenctid
eleni. Rwy’n credu y gallaf wneud newid er budd ein pobl ifanc a dyma’r hyn y
byddaf yn bwriadu ei gyflawni. Pe bawn yn cael fy ethol byddwn yn gwneud yn siŵr fy mod yn cynrychioli cynifer o leisiau
yn y gymuned â
phosibl, a byddwn yn helpu i wthio am y newidiadau sy’n bwysig, yn eu barn nhw, i’w hystyried gan bobl bwysig. Mewn byd o
bobl lygredig sydd yn esgus poeni am y bobl gyffredin, byddaf yn gwneud yn siŵr bod pawb yn fy ardal yn gallu teimlo eu
bod yn cael eu cynrychioli gan rywun sy’n poeni. Rwy’n
meddwl y dylai pobl roi ffydd ynof oherwydd rwy’n teimlo y gallaf gynrychioli materion
pobl ifanc a cheisio fy ngorau i’w datrys. Credaf fy mod yn ddewis addas i fod yn y rôl hon gan fy mod yn cynrychioli fy ysgol
ar fy nghyngor ysgol, a chredaf fy mod yn gwybod am y brwydrau a’r problemau y mae ein pobl ifanc yn eu
hwynebu yn y byd sydd ohoni.