Datganiad
ymgeisydd: Hoffwn ddod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru er mwyn gwneud
gwahaniaeth cadarnhaol, nid yn unig yn fy etholaeth i, ond yng Nghymru gyfan.
Rwy'n gweithio'n galed, yn gydwybodol ac yn mwynhau helpu eraill. Pe bawn i'n
cael fy ethol, byddwn yn sicrhau nid yn unig bod fy marn fy hun yn cael ei
chlywed, ond hefyd lleisiau fy nghyfoedion.
Un o fy mhrif
flaenoriaethau, pe bawn i'n cael fy ethol, fyddai annog mwy o bobl ifanc i
ymddiddori mewn gwleidyddiaeth, gan ei fod yn effeithio ar ein bywydau bob
dydd.
Byddwn hefyd yn
canolbwyntio ar yr amgylchedd. Materion fel cynhesu byd-eang a’r newid yn yr
hinsawdd yw rhai o'r problemau mwyaf sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd, problemau
y mae'r rhan fwyaf o bobl ifanc yn poeni amdanynt. Rwyf am wneud cymaint ag y
gallaf i helpu i amddiffyn a gwella ein hamgylchedd.
Mae nifer
brawychus o bobl ifanc ledled Cymru yn dioddef o iechyd meddwl gwael, problem a
oedd wedi gwaethygu o ganlyniad i bandemig COVID-19 a’r cyfyngiadau symud
dilynol. Fy nod yw helpu pobl y mae problemau iechyd meddwl yn effeithio
arnynt, p'un a ydynt yn cael trafferth eu hunain, neu'n adnabod pobl sy'n cael
trafferthion.
Byddwn ar gael ar
y cyfryngau cymdeithasol, trwy e-bost, ac yn bersonol.
Diolch am
ddarllen.