Pobl Senedd Ieuenctid Cymru

Elin Morris

Elin Morris

Aelod a Etholwyd gan Bartner

Youth Cymru

Roedd Elin yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Gweithgareddau yn Senedd Ieuenctid Cymru

Ni ddarganfuwyd unrhyw ganlyniadau

RHAGOR O WYBODAETH A DIGWYDDIADAU YN Y CALENDR

Gwybodaeth fanwl: Elin Morris

Bywgraffiad

Roedd Elin yn Aelod o Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru o 2018 i 2021.

Dyma ei datganiad pan oedd yn ymgeisydd yn yr etholiad ar gyfer Senedd Ieuenctid gyntaf Cymru:

Fy mhrif ystyriaethau:

  • Iechyd meddwl ac anhawster cael gwasanaethau cymorth.
  • Datrys y system addysg sy'n gwahardd ac yn anwybyddu'r rhai sydd ag AAAA.
  • Gwasanaethau cymorth ar gyfer pobl ifanc LGBTQ+ a darparu Addysg Rhyw a Chydberthynas gyfartal mewn ysgolion.

Elin Morris ydw i, rwy'n 16 oed ac rwyf mor falch o fod yn Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru.

Nid oes neb yn haeddu cael ei wahardd oherwydd anwybodaeth ac analluogrwydd rhywun arall. Gadewais yr ysgol yn 14 oed oherwydd anallu'r system addysg gyfredol i addasu i anghenion y rhai sydd ag anghenion addysgol arbennig ac anableddau (AAAA). Er gwaethaf anawsterau parhaus o ran addysg ers hynny, rwyf erbyn hyn yn astudio ar gyfer gradd ac yn mwynhau pob eiliad.

Mae gorbryder ac iselder arnaf i ac rwy'n delio â thrawma a achoswyd gan fwlio. O ganlyniad, rwyf wedi cael cefnogaeth CAMHS am y tair blynedd a hanner diwethaf, gan gynnwys tri mis mewn gwasanaethau cleifion mewnol. Credaf y bydd methu â chefnogi pobl ifanc â'u hiechyd meddwl yn arwain at effeithiau trychinebus yn y degawdau nesaf.

Un sydd ddim yn ffitio i mewn ydw i, yn gefnogwr pêl-droed brwd a hefyd yn un sy’n credu’n gryf mewn cydraddoldeb cymdeithasol. Edrychaf ymlaen at y misoedd nesaf.

Digwyddiadau calendr: Elin Morris